Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

PEIRIANNEG – RHAGLENNI A ADDYSGIR CAMPWS Y BAE

YN Y BYD (QS World University Rankings 2023) PEIRIANNEG 231

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

Our aim is to help students to become champions of industry, or to be equipped for a career in research. With world-class research centres and a sustained investment programme, Engineering provides a superb environment for you to study or conduct research. Engineers at Swansea pioneered the development of numerical techniques such as the revolutionary finite element method, recognised as one of the top 100 discoveries and developments in UK universities to have changed the world. • Arweinyddiaeth a Rheoli Peirianneg MSc ALl • Mecaneg Gyfrifiadurol MSc ALl • Peirianneg Adeiladu MSc ALl • Peirianneg Awyrofod MSc ALl RhA • Peirianneg (Awyrofod) MSc ALl • Peirianneg Biofeddygol MSc ALl • Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy MSc ALl RhA • Peirianneg Deunyddiau MSc ALl RhA • Peirianneg Electronig a Thrydanol MSc ALl RhA • Peirianneg Fecanyddol MSc ALl RhA • Peirianneg Gemegol MSc ALl • Peirianneg Gyfrifiadurol MSc ALl RhA • Peirianneg Sifil MSc ALl • Realiti Rhithwir MSc ALl RhA • Realiti Rhithwir gyda Diwydiant MSc ALl Mae Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn enwog am ei gwaith arloesol ym maes technegau rhifol. Un o lwyddiannau mwyaf yr adran yw datblygu'r dull elfennau cyfyngedig a gydnabyddir fel un o'r 100 darganfyddiad a datblygiad gorau gan brifygsol yn y DU sydd wedi newid y byd. Mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ymrwymedig i gynnig ystod o raglenni a mentrau i gefnogi a grymuso grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod mewn peirianneg a myfyrwyr o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, gan hyrwyddo diwylliant o degwch a chynhwysiant i feithrin cenhedlaeth o arweinwyr peirianneg amrywiol yn y dyfodol.

PAM ABERTAWE? • Dyfarnwyd sgôr o 100% a statws ‘yn arwain y byd 'neu'n ‘rhagorol yn rhyngwladol' i Beirianneg yn Abertawe ar gyfer Amgylchedd Ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Rydym ni wedi ein lleoli ar Gampws y Bae gwerth £450 miliwn, gyda lleoliad glan-môr deniadol wrth ymyl bae trawiadol Bae Abertawe, sy’n cynnwys saith adeilad pwrpasol, gyda mwy na 30,000m 2 o le labordy a swyddfa a chyfarpar ymchwil ac addysgu gwerth mwy na £10 miliwn. • Mae gennym ni gyfleusterau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Labordy Efelychu Hediadau a Thwnnel Gwynt, Labordy Strwythurau Trwm/ Concrit, Labordy Meteleg, Gweithdy Mecanyddol a Labordy Ffatri Beilot lle ffilmiwyd pennod o Dr Who. • Mae ein Hadrannau wedi cynnal rhai o gysylltiadau cryfaf y Brifysgol, felly gall myfyrwyr elwa o berthnasoedd gweithio agos ag

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Bydd ein rhaglenni MSc yn dy alluogi i archwilio egwyddorion ac elfennau peirianneg a gwyddonol traddodiadol a modern i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut mae pethau'n gweithio, i wella arnynt, ac i ddatrys problemau. • Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau achrededig yn cynnig yr wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys awyrenneg, ynni glân, lled-ddargludyddion, roboteg, telegyfathrebu, gweithgynhyrchu uwch, adeiladu, cerbydau, bwyd a diod, cynhyrchion cosmetig, fferylliaeth, gofal iechyd a llawer mwy.

• Mae ein themâu ymchwil trawsbynciol yn cyfuno timoedd amlddisgyblaethol, gan gyfuno sbectrwm eang o ddisgyblaethau peirianneg sy’n ein helpu ni i fynd i’r afael â heriau byd-eang a chael effaith go iawn.

arbenigwyr megis Rolls-Royce, Babcock, Airbus, BAE Systems, HP, Tata Steel a mwy.

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae gan y rhaglen hon ddyddiad dechrau ym mis Ionawr yn unig

Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64

116

Made with FlippingBook - Online magazine maker