Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

PEIRIANNEG – RHAGLENNI YMCHWIL CAMPWS Y BAE

YN Y BYD 231 (QS World University Rankings 2023) PEIRIANNEG

RHAGLENNI YMCHWIL

• Arloesedd Ynni MSc drwy Ymchwil/PhD ALl RhA • Dihalwyno ac Ailddefnyddio Dŵr MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Dylunio Cynhyrchion ar sail Efelychu MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Micro-synwyrddion a Micro-ysgogwyr MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Modelu Cyfrifiadurol mewn Peirianneg MRes ALl • Nanodechnoleg MSc drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA • Nanoelectronig MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Peirianneg Awyrofod MSc drwy Ymchwil/MPhil ALl RhA • Peirianneg Awyrofod PhD ALl RhA DoB • Peirianneg Biofeddygol PhD ALl RhA • Peirianneg Bio-proses MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Peirianneg Deunyddiau MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

• Peirianneg Electronig a Thrydanol MSc drwy Ymchwil/MPhil ALl RhA • Peirianneg Electonig a Thrydanol PhD ALl RhA DoB • Peirianneg Fecanyddol MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA • Peirianneg Feddygol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Peirianneg Gemegol MSc drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA • Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Atgynhyrchiol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Peirianneg Sifil MSc drwy Ymchwil/MPhil ALl RhA • Peirianneg Sifil PhD ALl RhA DoB • Systemau Telathrebu MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Technoleg Pilenni MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Technoleg Tanwydd MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Telathrebu PhD/MPhil ALl RhA

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau PAM ABERTAWE? • Dyfarnwyd sgôr o 100% a statws ‘yn arwain y byd 'neu'n ‘rhagorol yn rhyngwladol' i Beirianneg yn Abertawe ar gyfer Amgylchedd Ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Rydym ni wedi ein lleoli ar Gampws y Bae gwerth £450 miliwn, gyda lleoliad glan-môr deniadol wrth ymyl bae trawiadol Bae Abertawe. Mae Campws y Bae yn cynnwys cynnwys saith adeilad pwrpasol, gyda mwy na 30,000m 2 o le labordy a swyddfa a chyfarpar ymchwil ac addysgu gwerth mwy na £10 miliwn. • Mae gennym ni gyfleusterau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Labordy Efelychu Hediadau a Thwnnel Gwynt, Labordy Strwythurau Trwm/Concrit, Labordy Meteleg, Gweithdy Mecanyddol a Labordy Ffatri Beilot lle ffilmiwyd pennod o Dr Who. • Mae ein Hadrannau wedi cynnal rhai o gysylltiadau cryfaf y Brifysgol, felly gall myfyrwyr elwa o berthnasoedd gweithio agos ag arbenigwyr megis Rolls-Royce, Babcock, Airbus, BAE Systems, HP, Tata Steel a mwy.

Ein nod ni yw helpu myfyrwyr i fod yn hyrwyddwyr diwydiant, neu eu harfogi ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil. Gyda buddsoddiad parhaus a chanolfannau ymchwil o safon fyd-eang, mae astudio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn golygu y gelli di fwynhau amgylchedd dysgu eithriadol ar gyfer dy astudiaethau ac ymchwil.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein themâu ymchwil trawsbynciol yn cyfuno timoedd amlddisgyblaethol, gan gyfuno sbectrwm eang o ddisgyblaethau peirianneg sy’n ein helpu ni i fynd i’r afael â heriau byd-eang a chael effaith go iawn. • Mae gennym bum Sefydliad Ymchwil Rhyngddisgyblaethol sy'n dod ag arbenigedd ynghyd mewn meysydd gan gynnwys Gweithredu yn yr Hinsawdd; Technoleg ac Atebion Iechyd; Deunyddiau a Gweithgynhyrchu; Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ac Ymchwil Lled-ddargludyddion.

• Mae prosiectau ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gydweithio â staff academaidd arbenigol mewn rhai meysydd ymchwil penodol, a gallai hefyd gynnwys cydweithio â diwydiant sy’n gallu cynyddu dy gyflogadwyedd. • Mae ein hymchwil yn cyfrannu tuag at lwyddiant Nodau Datblygu Cynaliadwy penodol y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys: Iechyd a Llesiant Da; Dŵr Glân a Glanweithdra; Ynni Fforddiadwy a Glân; Diwydiant, Arloesi a Seilwaith; Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy; Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol; a Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd.



Meddyliau Mawr gweler y dudalen nesaf

117

Made with FlippingBook - Online magazine maker