Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

TAR – CYNRADD CAMPWS SINGLETON

YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 81 %

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cynradd gyda SAC PGCert ALl

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni'n ymrwymedig i ddarparu rhaglen TAR cynradd ymarferol ac arloesol. Ein nod yw rhoi'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnat i ysbrydoli ac ysgogi cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein darpariaeth sydd wedi’i chynllunio’n ofalus yn cydbwyso damcaniaeth sy'n ennyn diddordeb ac sydd wedi'i llywio gan dystiolaeth, â gweithgareddau ymarferol. Bydd hyn yn sicrhau dy fod yn meithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol gadarn o sut mae plant yn dysgu, ynghyd â'r sgiliau a'r wybodaeth i'w helpu i ddatblygu. Byddwn yn dy gefnogi bob cam o’r ffordd, wrth i ti ddysgu sut i gynllunio, addysgu, a myfyrio ar gyfleoedd dysgu effeithiol ar draws y cwricwlwm cynradd. Mae ein rhaglen unigryw yn cael ei haddysgu gan staff profiadol â diddordebau ymchwil amrywiol ac arbenigedd ym maes addysg gynradd. Hefyd, mae gennym gysylltiadau cryf ag ysgolion a sefydliadau addysgol sy'n cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith gwerthfawr. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi!

PAM ABERTAWE? • Mae ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Cynradd yn darparu mynediad i gyfoeth o brofiadau proffesiynol a ddarperir gan dîm partneriaeth brwdfrydig, profiadol ac effeithiol. • Mae'r tîm yn weithgar ym maes ymchwil gyda chyfoeth o brofiad pwnc a phrofiad o gyfnodau, gyda llawer ohonynt yn arbenigwyr ym maes addysg a gydnabyddir yn rhyngwladol. • Caiff ein rhaglen gynradd ei llywio gan yr ymchwil addysgol a'r arloesedd diweddaraf. • Mae'r rhaglen yn elwa o gyfleusterau rhagorol yn y brifysgol megis amgueddfa ar y safle, darpariaeth awyr agored a chyfleusterau addysgu pwrpasol, yn ogystal â chynnig lleoliadau gwaith mewn ysgolion partneriaeth a ddewiswyd yn ofalus. • Gyda charfannau bach a chymorth wedi'i deilwra (gan gynnwys Timau Cymorth i Fyfyrwyr, Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith) byddi di’n dod yn rhan o gymuned ddysgu gydlynol, flaengar, gynhwysol a chefnogol. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysg, MA/PGCert/PGDip • Doethur mewn Addysg, EdD

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Sesiynau prifysgol o safon uchel, gan roi amser i ddatblygu a myfyrio ar natur addysgu mewn ysgolion cynradd. • Dau leoliad addysgu mewn ysgolion partneriaeth amrywiol a ddewiswyd yn ofalus. • Profiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd cyn dewis arbenigo mewn cyd-destunau Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oedran. • Cyfleoedd i ymgymryd â phrofiad

• Cymorth personol gan diwtor profiadol iawn sy'n rhannu dy

frwdfrydedd dros addysgu cynradd. • Mentoriaid cefnogol yn yr ysgol i dy dywys drwy dy leoliadau ysgol. • Trafodaeth wybodus a beirniadol am Gwricwlwm Cymru a chwricwla eraill. Archwilio cynnwys allweddol megis gwybodaeth am bynciau, llythrennedd, rhifedd, technoleg ddigidol, ymarfer cynhwysol, chwarae a dysgu yn yr awyr agored.

amgen byr mewn lleoliadau fel ysgolion Anghenion Arbennig neu ganolfannau addysgol.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50 Proffil Myfyriwr

gweler y dudalen nesaf

131

Made with FlippingBook - Online magazine maker