Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Megan Colbourne

TAR Cynradd

Roeddwn i'n awyddus i ddilyn cwrs i fod yn athrawes gynradd. Y gallu i ehangu dealltwriaeth disgyblion a’u helpu i feithrin sgiliau ar gyfer eu taith addysgol sy’n fy nenu at addysg. Mae teimlad cartrefol a chyfeillgar i'r Brifysgol ac rydw i bob amser wedi cael y cymorth sydd ei angen arnaf. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gwblhau’r cwrs TAR drwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw fy iaith gyntaf a gan fy mod wedi derbyn fy holl addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd y gallu i barhau i astudio trwy'r Gymraeg yn hanfodol.

Y prif beth dw i wedi mwynhau yw gallu mynd ar leoliad gwaith er mwyn ehangu fy mhrofiadau a fy hyder o fewn y dosbarth. Pan fo angen, mae cymorth wedi bod ar gael i mi er mwyn fy helpu ar draws y flwyddyn. Criw bach ohonom sydd wedi cwblhau’r cwrs TAR yn y Gymraeg felly rydym wedi dod yn agos iawn ac mae hyn wedi ein galluogi i helpu ein gilydd ar hyd y daith. Rydw i'n ffodus iawn fy mod wedi cael cynnig swydd mewn ysgol gynradd Gymraeg ar gyfer mis Medi ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy ngyrfa!

Y prif beth dw i wedi mwynhau yw gallu mynd ar leoliad gwaith er mwyn ehangu fy mhrofiadau a fy hyder o fewn y dosbarth.

132

Made with FlippingBook - Online magazine maker