81 % YSTYRIR BOD
TAR – UWCHRADD CAMPWS SINGLETON
YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)
RHAGLENNI A ADDYSGIR
• TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg PGCert ALl
• TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Sbaeneg) PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg PGCert ALl
PAM ABERTAWE? • Rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig wedi'u llywio gan y diweddaraf o ran ymchwil ac arloesi. • Bydd adnoddau hyfforddiant gwerthfawr ar gael i ti. • Tîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith pwrpasol ar y safle yn benodol ar gyfer ein myfyrwyr, sy'n darparu awgrymiadau gyrfa, gweithdai a chyngor.
Mae ein rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion Uwchradd (TAR) wedi’i theilwra i dy helpu i ddod yn athro/athrawes effeithiol a myfyriol sy’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn dy annog i gymhwyso damcaniaeth ac ymchwil i dy ymarfer dysgu ac yn cynnig digon o gyfleoedd i ddatblygu'r wybodaeth am bynciau, addysgeg ac ymchwil. Gyda’n harweiniad a’n cymorth ni, byddi di'n cyrraedd dy botensial llawn fel athro/athrawes ac yn gallu ymateb yn bwrpasol i anghenion amrywiol dy ddisgyblion. Ymuna â ni a dod yn rym cadarnhaol yn addysg pobl ifanc.
HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysg, MA/PGCert/PGDip • Doethur mewn Addysg, EdD
CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) integredig a thrylwyr Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) a fydd yn dy herio'n academaidd ac yn broffesiynol.
• Mae PYPA wedi ymrwymo i ddatblygu ymarferwyr myfyriol wedi'u llywio gan ymchwil a all ddangos creadigrwydd a
hyblygrwydd yn eu haddysgu er mwyn i ddysgwyr ddatblygu eu cymhwysedd pwnc mewn amgylchedd sy'n meithrin mwynhad.
Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50 Proffil Myfyriwr
This programme also has a January start date available
gweler y dudalen nesaf
133
Made with FlippingBook - Online magazine maker