Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Ysgoloriaethau a gwobrau rhagoriaeth ymchwil Fel rhan o ymrwymiad Abertawe i gefnogi’r dalent ymchwil gorau rydym yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn ar draws disgyblaethau trwy ein rhaglenni blaenllaw: Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) ac Ysgoloriaethau Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS). Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn i ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu syniadau, ochr yn ochr â darparu goruchwyliaeth ragorol a rhoi’r sgiliau i ymchwilwyr doethurol gwblhau eu traethawd ymchwil o fewn tair blynedd. Fel rhan o’n portffolio rhagoriaeth, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cyrhaeddiad academaidd drwy wobrau James Callaghan, sy’n darparu cyllid i alluogi myfyrwyr ymchwil yn Abertawe i ddatblygu eu hymchwil.

Partneriaethau a chanolfannau hyfforddiant doethurol

Trwy gydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill a phartneriaid mewn diwydiant, rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol mewn disgyblaethau sy’n rhoi pwyslais ar y dyfodol, o ddeallusrwydd artiffisial a gweithgynhyrchu deunyddiau, i’r gwyddorau cymdeithasol a pholisi. Fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd, rydym yn rhan o nifer o fentrau doethurol nodedig a ariennir gan UKRI sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd ac yn cefnogi ein myfyrwyr doethurol i ddod yn ymchwilwyr blaenllaw’r dyfodol, mewn amgylchedd cefnogol sy’n cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol, megis gweithio neu astudio dramor

a lleoliadau gwaith gyda phartneriaid diwydiannol.

25

Made with FlippingBook - Online magazine maker