Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Mae rhai o’n myfyrwyr presennol yn rhannu eu profiadau o drosi o astudiaethau israddedig i ôl-raddedig isod:

ISRADDEDIG I

Mae llawer iawn o’r pedair mil o’n cymuned ôl-raddedig yn gyn-fyfyrwyr israddedig a wnaeth fwynhau eu hamser yn Abertawe cymaint, gwnaethant benderfynu aros! Mae llawer o fanteision i aros gyda ni yn Abertawe i astudio dy radd ôl-raddedig. 1. Byddi di eisoes yn gyfarwydd â’r Brifysgol, ei champysau a’r ardaloedd o amgylch. 2. G an y byddi di eisoes wedi astudio gyda ni, byddi di’n gwybod am y lleoedd gorau i fyw, astudio, bwyta neu ymlacio! 3. Byddi di’n dal i allu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gynigir gan adrannau megis Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Academi Hywel Teifi, Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd a MyUniHub. 4. Mae nifer o gyfleoedd i ti astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig gan roi mantais sylweddol i ti yn ariannol ac o ran dy gyflogadwyedd. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio yn yr iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ymlaen i ti ac mae digon o gefnogaeth ar gael i dy alluogi i ddychwelyd at astudio yn y Gymraeg os na wnest ti hynny dros y blynyddoedd diwethaf. 5. Efallai dy fod eisoes yn adnabod sawl cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, ac efallai y byddi di’n gallu parhau i fyw gyda’r bobl rwyt wedi rhannu fflat â nhw. 6. M ae ystod o gyrsiau trosi Abertawe yn dy alluogi i astudio ar gyfer dy radd ôl-raddedig mewn maes pwnc newydd sbon. 7. O s wyt yn dewis astudio’r un maes pwnc, gelli barhau i adeiladu ar dy berthynas waith gyda darlithwyr a mentoriaid academaidd, gan ddatblygu dy wybodaeth arbenigol. 8. Fel myfyriwr presennol yn Abertawe, byddi di’n cwblhau ffurflen gais fyrrach ar gyfer dy gwrs meistr dewisedig* trwy Lwybr Carlam.

CHLOE THOMAS TAR Uwchradd gyda SAC, TGCh/ Cyfrifiadureg “Fe wnes i fy nghwrs israddedig mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedyn dechreuais i fy nghwrs TAR yn arbenigo mewn TGCh/Cyfrifiadureg. Rwyf hefyd wedi cael profiad yn addysgu mathemateg. Bydd hyn yn rhan o fy rôl yn fy swydd ym mis Medi. Mae Prifysgol Abertawe yn le arbennig i astudio a’r darlithwyr yn arbenigwyr angerddol sy’n gyfeillgar ac yn dy annog i gyrraedd dy lawn botensial. Roedd y lefel o gymorth gefais i cyn hyd yn oed dechrau’r cwrs yn swyddogol yn wych. Mae’r tîm Addysg yn arbenigwyr yn y maes ac yn wirioneddol eisiau helpu’r myfyrwyr i fod yr athrawon gorau posib. Maen nhw’n ffocysu ar fyfyrio ar dy sgiliau ac yn cynnig diwrnodau ymarfer a theori sy’n edrych ar elfen benodol o addysgu. Mae cydymdeimlad a pharch rhwng y tîm a’r myfyriwr ac mae’n teimlo fel teulu. Gan fy mod i’n gwneud y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg rwy’n gymwys ar gyfer y grant iaith athrawon yfory. Mae hyn yn cefnogi athrawon sydd eisiau addysgu mewn ysgolion Cymraeg. Grant arall rwy’n gymwys i’w dderbyn yw Grant Cymhelliant gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cefnogi athrawon sy’n astudio pynciau lle mae prinder fel Cyfrifiadureg. “

* Mae cyfyngiadau cwrs yn berthnasol

26

Made with FlippingBook - Online magazine maker