Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

ERIC WEN, Peirianneg Electronig a Thrydanol, PhD

Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe? • Y traethau • Y gymuned • Bwyd! SOPHIE MAHONEY, Marchnata Strategol, MSc

Pam dewisaist di astudio MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol? Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio i achub y blaen ym maes technoleg ymarferol, gan wella’r dyfeisiau a’r systemau rydym ni’n eu defnyddio bob dydd. Rydw i’n gwybod y bydd y radd hon yn fy rhoi mewn safle cryf ar gyfer fy nyfodol, pa bynnag lwybr gyrfa y bydda i’n penderfynu arno. Pam penderfynaist di astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe? Ar ôl i mi orffen fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, penderfynais ddilyn gradd PhD. Fel myfyriwr presennol, rydw i’n gyfarwydd â’r darlithwyr a rhai o’r myfyrwyr PhD. Rydw i’n gwybod eu bod nhw’n garedig iawn ac yn gymwynasgar iawn. Rydw i’n credu bod goruchwyliwr perffaith, cyfathrebu da a gwaith tîm yn allweddol wrth astudio am PhD yn llwyddiannus. Mae enw da rhagorol Prifysgol Abertawe ar gyfer ymchwil hefyd yn rheswm pwysig dros barhau â’m PhD yn Abertawe. Beth wyt ti’n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau dy Ymchwil Ôl-raddedig? Rydw i’n edrych ymlaen at gyfle i ddechrau fy ngyrfa mewn peirianneg systemau pŵer go iawn, a defnyddio fy arbenigedd proffesiynol i’r eithaf.

Pam dewisaist di astudio dy radd yn Abertawe? Astudiais fy ngradd israddedig mewn Rheoli Busnes yma. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r darlithwyr yn gallu dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i mi y byddwn yn mynd â nhw gyda mi yn y pen draw i’r byd gwaith. Er efallai nad yw’r darlithwyr sy’n addysgu’r radd Meistr yr un fath â’r rhai a’m dysgodd i ar lefel israddedig, roeddwn i’n gwybod bod ansawdd yr addysgu yn gyson drwy’r Ysgol Reolaeth. Hefyd, y timau cyflogadwyedd/gyrfaoedd yn y brifysgol yw’r bobl orau i fynd atynt pan fyddi di’n cyflwyno cais am leoliadau gwaith neu gynlluniau i raddedigion; maen nhw’n rhagori ar ddisgwyliadau! Beth yw dy hoff beth am dy gwrs? Amrywiaeth y modiwlau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gul eu meddyliau o ran Marchnata, maent yn credu mai hysbysebu yn unig ydyw ond mae’n gymaint mwy na hynny ac mae’r cwrs Marchnata Strategol wedi tynnu sylw at hynny; rydym yn ymdrin â phopeth fel ymchwil marchnata, dulliau ymchwil, segmentu, cyfathrebu marchnata a marchnata digidol. Beth wyt ti’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i ti raddio? Byddwn wrth fy modd yn gweithio i sefydliad dielw, gan godi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw helpu’r rhai mewn angen.

abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

39 39

Made with FlippingBook - Online magazine maker