Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

DOES UNMAN YN DEBYG

Fel myfyriwr ôl-raddedig sy’n ymuno â chymuned Prifysgol Abertawe, hoffem dy helpu i ddod o hyd i rywle y gelli ei alw’n gartref.

Mae llety i ôl-raddedigion ar gael ar Gampws y Bae, Campws Parc Singleton, Tŷ Beck yn ardal gyfagos Uplands, ac yn y llety newydd yng nghanol y Ddinas sef Seren a true Student. Bydd hyd dy denantiaeth yn cyfateb i hyd dy astudiaethau. I lawer o fyfyrwyr Ôl-raddedig, bydd hyn yn 51 wythnos.

CAMPWS Y BAE Campws y Bae yw un o’r unig gampysau prifysgol yn y DU sydd â mynediad uniongyrchol i’r traeth a’i bromenâd glan môr ei hun. Mae’r mathau o lety ar Gampws y Bae yn cynnwys ystafelloedd pâr, en suite, ystafelloedd premiwm ag en suite, ystafelloedd sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Mae’n agored i fyfyrwyr ar unrhyw gwrs, ac mae gwasanaethau bws aml ac uniongyrchol rhwng y campysau.

CAMPWS PARC SINGLETON Mae holl breswylfeydd Singleton o fewn pellter cerdded i’r parc, y traeth, Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe. Mae Singleton yn darparu ystafelloedd safonol ac en suite, hunanarlwyo ac arlwyo’n rhannol yn ogystal ag opsiynau bwyta y telir amdanynt ymlaen llaw. Mae bysiau aml ac uniongyrchol rhwng y campysau. LLETY YN NHŶ BECK Mae gennym nifer o fflatiau i fyfyrwyr sengl, parau yn ogystal ag i deuluoedd yn ein preswylfa dawel

ddynodedig, Tŷ Beck, tua milltir o’r campws yn ardal fyfyrwyr boblogaidd Uplands. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae’r llety hwn yn fwyaf addas i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhyngwladol. LLETYA Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydym wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill. Darperir llety en suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn.

abertawe.ac.uk/llety/ opsiynau-llety

PWYNTIAU ALLWEDDOL:

• Rhyngrwyd diwifr am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, ResReps, sy’n byw yn y preswylfeydd ac sy’n dy gynrychioli o’u gwirfodd, sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y profiad gorau posibl • Mae rhan fwyaf o’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl, fodd bynnag rydym yn cynnig fflatiau teulu yn Nhŷ Beck, ac mae rhai llety yn addas ar gyfer parau, gyda deiliadaeth ddeuol am ddim yn true • Cyfleusterau golchi • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysyllta â’r Tîm Lles ac Anabledd am ragor o wybodaeth • Mae cyfleusterau en suite ac ystafell ymolchi a rennir ar gael

40

Made with FlippingBook - Online magazine maker