Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MANTEISION ASTUDIO

MANTAIS ARIANNOL Gall astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod o fantais i ti yn ariannol gyda nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud. Gelli ymgeisio am ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe neu ar ôl i ti gyrraedd. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod modd i unigolion sy’n ddwyieithog ennill cyflog uwch ar gyfartaledd na chyfoedion sydd yn siarad dim ond un iaith. RHAGOLYGON GYRFA Mae cyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gall astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hynod fanteisiol felly. Bydd nodi’r sgiliau hyn yn ychwanegiad atyniadol iawn ar dy CV ac yn rhoi mantais gystadleuol i ti mewn nifer o achosion. Yn ogystal â hyn mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyfrwng Cymraeg yn y gweithle ac i ennyn cysylltiadau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Mae astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn gyfle arbennig i ddatblygu dy sgiliau ac i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn helpu agor y drws i ddyfodol disglair.

Macsen Davies, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn bethau dw i’n teimlo’n hynod angerddol yn eu cylch ers i mi fod yn ifanc. Rwyf wedi derbyn fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gydol fy mywyd gan gynnwys fy amser yma ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio BSc Daearyddiaeth. Gan fy mod yn frodor o Gwm Tawe uchaf, mae’r Gymraeg wedi rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi ac wedi chwarae rhan enfawr yn fy magwraeth, ac rwy’n hynod falch o gael y cyfle i’w siarad. Fy nod ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod yw gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i hetifeddiaeth. Yn ogystal, mae gen i obeithion o gryfhau’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu a chael y profiad addysgu cyfrwng Cymraeg gorau posib yn ogystal â chynnig cyfleoedd i’n clybiau a’n cymdeithasau cyfrwng Cymraeg esblygu, er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n siaradwyr ac yn ddysgwyr Cymraeg gael gwell dealltwriaeth o’n diwylliant gwych. Croeso mawr i ti gysylltu â fi: macsen.davies@swansea-union.co.uk

Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio gweler colegcymraeg.ac.uk

48

Made with FlippingBook - Online magazine maker