Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MAE GEN

Mae gen ti hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol.

GWASANAETH CWNSELA

LLYTHYRAU yn y Gymraeg

yn y Gymraeg

CAIS AM GYMORTH ARIANNOL

yn y Gymraeg CYFARFODYDD

yn y Gymraeg

LLYFRYN CAIS AM GYMORTH ARIANNOL yn y Gymraeg

yn y Gymraeg TYSTYSGRIFAU

CYFLWYNO GWAITH YSGRIFENEDIG yn y Gymraeg

PROSBECTWS yn y Gymraeg

TIWTOR PERSONOL sy’n siarad Cymraeg

yn y Gymraeg FFURFLENNI

Gwenan Evans, MSc Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd

Astudiais fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe a phenderfynais i barhau gyda fy addysg trwy astudio gradd Meistr yma hefyd. Mae Abertawe fel cartref i mi nawr ac felly roeddwn i eisiau treulio mwy o amser yn y ddinas hyfryd hon. Mae fy nghwrs yn ffocysu ar Ddaearyddiaeth ffisegol ac felly rydw i wedi dewis modiwlau sydd yn edrych ar danau allan o reolaeth, newid hinsawdd, rhewlifau a llawer mwy. Braf oedd astudio rhan o’r cwrs Meistr yn Gymraeg. Mae astudio Daearyddiaeth wedi rhoi cyfleoedd gwych i mi o ran gweld ardaloedd gwahanol o Gymru yn enwedig wrth wneud llawer o waith maes. Enghraifft o hyn yw treulio penwythnos yn Stagbwll, Sir Benfro, yn edrych ar lygredd yn yr afonydd. Roedd hwn yn llawer o hwyl ac yn brofiad gwerthfawr tu hwnt. Yn y dyfodol rydw i eisiau bod yn athrawes ddaearyddiaeth gyfrwng Cymraeg ac felly bydd cynnwys fy nhraethawd hir yn ddefnyddiol wrth gynllunio tuag at y cwricwlwm newydd.

49

Made with FlippingBook - Online magazine maker