Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.
Mae’r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe ac Aelwyd yr Elyrch. Y GYMDEITHAS GYMRAEG (GYMGYM)
EDRYCHA AM Y LOGO ar y tudalennau cwrs sy’n dynodi argaeledd ysgoloriaethau a chyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg!
51
Made with FlippingBook - Online magazine maker