Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

UNDEB Y

swanseaunisu

swanseaunisu

susu_official

swanseaunisu

Pablo Josiah Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2023 – 2024

Shwmae, gyd-fyfyriwr! Pablo ydw i, dy Lywydd Undeb Myfyrwyr ar gyfer 2023-24. Gwisga dy wregys achos rydym ni ar fin cychwyn ar daith anhygoel gyda’n gilydd! Fy mhrif genhadaeth yw bod yn llais, yn eiriolwr ac yn hyrwyddwr iti am eleni. Fel y bont rhyngot ti a’r Brifysgol, rwy’n addo ymroi fy amser a’m hegni i gynrychioli dy anghenion a’th uchelgeisiau. Ond ti’n gwybod beth? Dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn yr ymdrech hon! Rwy’n cael fy nghefnogi gan dîm cadarn o bum swyddog etholedig

amser llawn a grŵp o swyddogion myfyrwyr rhan-amser brwdfrydig. Gyda’n gilydd, rydym yn ffurfio pwerdy sy’n barod i frwydro dros dy hawliau a chael effaith barhaol ar ein profiad prifysgol. O ymgyrchu dros gampws mwy cynhwysol, i frwydro am adnoddau a gwasanaethau gwell, ein nod yw gwneud gwahaniaeth y gallwn ei weld a’i deimlo. Wrth greu cymuned fywiog a chefnogol i bob myfyriwr ddisgleirio.

52

Made with FlippingBook - Online magazine maker