Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MAE UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL ABERTAWE YN CYNNIG: • Dros 150 o gymdeithasau a dros 50+ o glybiau chwaraeon • Union Collective; platfform i helpu myfyrwyr gydag arian ac adnoddau i gymryd eu syniadau busnes ar lawr gwlad

• Canolfan Gynghori a Chymorth yn helpu gyda phopeth o landlordiaid i anghyfodau academaidd • Meithrinfa ar y campws sy’n hyblyg o gwmpas darlithoedd myfyrwyr • Llais i fyfyrwyr yn y Brifysgol, gan sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei chlywed ar bob lefel

YN DY GEFNOGI Mae ein tîm yn cynnal ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o faterion, a mentrau hynod bwysig i dy gefnogi di! Dyma rai ohonynt: Cymorth Astudio: Gwasanaethau am ddim i dy helpu i ymdopi â chyfnodau astudio dwys (gan gynnwys ymweliad gan gŵn bach gan ein ffrindiau yn Achub Milgwn Cymru). Rhyddhad: Rydym ni am i bawb deimlo’n ddiogel, i’w croesawu, a’u cynnwys yn Abertawe. Felly rydym ni’n cynnal ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn ar bynciau fel Hanes Pobl Dduon, Balchder LGBTQ+, Ymwybyddiaeth Anabledd, a Hawliau Traws i addysgu’r gymuned myfyrwyr ehangach a gwneud ein campysau mor gynhwysol â phosib! Tashwedd: Y n ystod Tashwedd, rydym ni’n rhoi cymuned o Mo Bros a Mo Sisters ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth drwy godi arian a hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, canser y prostad a chanser y ceilliau. Dyma un o’n hymgyrchoedd mwyaf, ac mae bob amser yn sioe ledled y Brifysgol. Gelli ddilyn ein tîm o swyddogion ar Instagram @ susuofficers i ddarganfod beth arall maen nhw’n ei wneud! Os wyt ti am ein dilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd i ddod a sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn Abertawe, rydym ni ar Instagram, TikTok, Facebook, a Twitter, gelli ddod o hyd i ni fel @SwanseaUniSU .

53

Made with FlippingBook - Online magazine maker