Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Mae Bod yn ACTIF yn cynnig rhaglen gynhwysfawr a chynhwysol o weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi cael eu cynllunio i dy helpu i symud yn fwy. Ynghyd ag amserlen graidd o weithgarwch corfforol ar y campws, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig sesiynau rhagflas, sesiynau sydyn, heriau a sesiynau hyfforddedig, gan gwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau o gerdded a loncian i bêl-foli, boules neu fadminton, ynghyd â chyfleoedd i adael y safle a gwneud y gorau o awyr iach Cymru. YMUNA Â'N CYMUNED ACTIF AR GAMPWS

DARGANFYDDA FWY abertawe. ac.uk/bod-yn-actif

YSGOLORIAETHAU Gweler y wefan ar gyfer yr amodau: £2 , 000

CYNGHREIRIAU CYMDEITHASOL Mae cynghreiriau cymdeithasol yn rhoi cyfle i ti gystadlu â dy ffrindiau yma ar y campws, gan wneud chwaraeon cystadleuol yn gymdeithasol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Mae ein cynghreiriau yn agored i bob gallu ac yn cwmpasu ystod gynyddol o weithgareddau chwaraeon, o bêl-droed a phêl-fasged i bêl-rwyd a mwy. CLYBIAU CHWARAEON P'un a oes gen ti ddiddordeb mewn nofio, hwylio, saethyddiaeth neu golff, mae rhywbeth at ddant pawb yn Chwaraeon Abertawe. P'un a wyt ar lefel dechreuwr; canolradd; neu elitaidd, trwy ein 50+ o glybiau, rydym yn cynnig cyfleoedd clybiau chwaraeon gwych i bawb.

abertawe.ac.uk/israddedig/ysgoloriaethau

YSGOLORIAETHAU CHWARAEON, A CHYNLLUN YSGOLORIAETHAU I ATHLETWYR DAWNUS (TASS) Mae’r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol

RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein rhaglenni Perfformiad Uchel yn cynnig

a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Gall buddion eraill gynnwys aelodaeth o gyfleusterau am ddim a hawlen i barcio ar y campws.

amgylchedd hyfforddi a chystadlu elît i athletwyr mewn ystod o gampau, gyda phob un yn cael ei gyflenwi mewn cydweithrediad â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma'r chwaraeon: rygbi’r undeb, pêl-droed, nofio, hoci a thennis bwrdd.

WEDI GWELLA FWYAF Tabl Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 21ain yn nhabl BUCS 2021-22

55

Made with FlippingBook - Online magazine maker