Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

AELODAETH O'R GAMPFA Fel rhan o ffordd o fyw gytbwys ac iach ym

Mhrifysgol Abertawe, gall myfyrwyr ymaelodi â'r gampfa a chael nifer o fanteision am bris llai. Mae bod yn aelod hefyd yn rhoi i ti'r manteision canlynol: • Y gallu i ddefnyddio 69 o gampfeydd yn y DU fel rhan o gynllun UNIversal BUCS • Mynediad at gyfleusterau campfeydd ar Gampws y Bae ac ar Gampws Singleton • Dosbarthiadau ffitrwydd • Cyfraddau gostyngol i aelodau ar gyfer llogi cyfleusterau

EIN CYFLEUSTERAU CHWARAEON Mae gan Brifysgol Abertawe ystod helaeth o gyfleusterau chwaraeon i fyfyrwyr ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar bwys Campws Singleton ac ar Gampws y Bae. Mae gan y ddau gampws gyfleusterau iechyd a ffitrwydd ardderchog, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd a gweithgareddau dan do a rhai awyr agored i gyrraedd dy nodau. Mae ein pwll cenedlaethol 50m wedi'i ddefnyddio gan athletwyr wrth baratoi ar gyfer gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac ar hyn o bryd mae'n gartref i raglen perfformiad uchel Nofio Cymru. Mae ein timau pêl-droed yn cael defnyddio cyfleuster hyfforddi o safon fyd-eang yn Fairwood, sy'n brif gae hyfforddi i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleuster cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf (Y Sied) sydd ar gael i athletwyr elît a thimau a ddefnyddiwyd gan y Crysau Duon Seland Newydd fel canolfan hyfforddi Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae ein hystod eang o gyfleusterau chwaraeon yn cynnwys: • Cae Artiffisial ar sail dŵr • Caeau Chwarae • Cyrtiau tennis

Edrych ar luniau Varsity 2022

VARSITY CYMRU Yr ail Varsity fwyaf yn y DU, mae’r twrnamaint mawreddog hwn rhwng Prifysgol Abertawe a Chaerdydd yn ymgysylltu â 20,000+ o fyfyrwyr mewn dros 30 o wahanol ddigwyddiadau, trwy ŵyl chwaraeon wythnos o hyd. Mae’n brofiad myfyriwr cwbl unigryw sy’n cynnig profiadau, atgofion a ffrindiau sy’n para am oes.

• Gwasanaeth llogi beiciau a llwybrau rhedeg • Neuaddau chwaraeon amlbwrpas ac ardaloedd

gemau awyr agored • Pafiliwn chwaraeon • Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

• Trac a chae athletau • Trac athletau dan do

abertawe.ac.uk/chwaraeon

56

Made with FlippingBook - Online magazine maker