Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

CYFRIFIADUREG CAMPWS Y BAE

YN Y BYD CYFRIFIADUREG 150

RHAGLENNI YMCHWIL

(Times Higher Education World University Rankings (THE) 2023)

• Cyfrifiadura Gweledol a Rhyngweithiol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Cyfrifiadura Gweledol MRes ALl • Cyfrifiadura a Thechnolegau Rhyngweithio'r Dyfodol MRes ALl RhA • Cyfrifiadureg MSc drwy Ymchwil MPhil ALl RhA

• Cyfrifiadureg PhD ALl DoB • Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Rhesymeg a Chyfrifiannu MRes ALl RhA • Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron MSc drwy Ymchwil ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Mae Effaith Ymchwil Cyfrifiadureg yn Abertawe wedi cyflawni sgôr o 100% o ran arwain y byd a rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Bydd arbenigwyr llawn ysbrydoliaeth yn dy addysgu, pobl fel yr Athro Matt Jones, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel arweinydd ym maes grymuso cymunedau digidol gwledig yn y DU a ledled y byd sy’n datblygu. • Mae’r Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5 miliwn wrth wraidd ein holl gyrsiau, gyda chyfleusterau addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, gan gynnwys Labordy Golwg a Biometreg, Labordy Creu, Labordy Damcaniaeth, Labordy Seiberddiogelwch/Rhwydweithio, diweddaru’n rheolaidd i sicrhau nad yw’r cyfarpar byth yn fwy na thair blwydd oed, ac yn anaml ddim yn fwy na dwy flwydd oed. • Mae ein graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus fel Peirianwyr Meddalwedd, Datblygwyr Llif Gwaith, Rhaglennwyr, Datblygwyr Labordy Defnyddwyr ac Ystafelloedd Delweddu. • Mae ein labordai’n cael eu

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Data Mawr a Deallusrwydd Artiffisial o Safbwynt Defnyddwyr MSc ALl • Cyfrifiadureg MSc ALl RhA • Cyfrifiadureg: Informatique (llwybr Abertawe/Grenoble) MSc ALl • Cyfrifiadureg Uwch MSc ALl RhA

• Gwyddor Data MSc ALl RhA • Seiberddiogelwch MSc ALl RhA • Technoleg Meddalwedd Uwch MSc ALl RhA

Mae adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe wedi mynd trwy dwf sylweddol yn ddiweddar, gyda ffocws ar ymchwil arloesol a thrawsnewidiol mewn meysydd cyfrifiannol a mathemategol. Mae adeilad newydd y Ffowndri Gyfrifiadol, sy'n cynnwys cyfleusterau o safon fyd-eang, wedi'i sefydlu fel canolbwynt yr adran. Mae'r labordai wedi'u rhwydweithio'n llawn, gan gynnig systemau gweithredu Windows a Linux, ac ystod gynhwysfawr o feddalwedd rhaglenni fel Java, C#, a'r fframwaith .NET, C, C++, Haskell, a Prolog. Mae'r adran yn falch o ddarparu mynediad am ddim i'w holl feddalwedd, sy'n ffynhonnell agored ac sydd ar gael i ti fel myfyriwr.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni MSc yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth drylwyr mae eu hangen arnot ti i ragori yn dy faes, boed hynny drwy astudio pellach, ymchwil neu yrfa sy’n rhoi boddhad

• Rydym ni’n gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys iawn y mae eu diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ein themâu: Grŵp Cyfrifiadura Gweledol a Rhyngweithiol, Grŵp Rhesymeg a Chyfrifiadura, Grŵp Technoleg y Dyfodol a’r Grŵp Diogelwch.

Gwe a Dadansoddwyr Cymwysiadau Busnes.

ym maes cyfrifiadureg neu ddiwydiannau cysylltiedig. • Caiff prosiectau ymchwil eu

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gwyddor Actiwaraidd, MSc • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg, PGCert

llywio drwy gyfranogiad mewn gweithgareddau megis seminarau, gweithdai, gweithgarwch labordy a gwaith maes, yn ogystal â dy gyfranogiad yn un o’n grwpiau ymchwil sefydledig.

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64

76

Made with FlippingBook - Online magazine maker