Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Y CYFRYNGAU, CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS CAMPWS SINGLETON

PARATOI AR GYFER GYRFA YN Y CYFRYNGAU RHYNGWLADOL CYFOES

RHAGLENNI YMCHWIL

• Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu PhD/MPhil ALl RhA • Astudiaethau'r Cyfryngau MA drwy Ymchwil ALl RhA • Dyniaethau Digidol MA drwy Ymchwil ALl RhA

• Sgrinio/Llwyfannu Ewrop MA drwy Ymchwil ALl RhA • Y Cyfryngau Digidol MA drwy Ymchwil ALl RhA MPhil ALl

PAM ABERTAWE? • Mae ein rhaglenni wedi'u cymeradwyo gan ddiwydiant, sy’n golygu y bydd dy astudiaethau gyda ni yn dy alluogi i ddatblygu portffolio o sgiliau a fydd yn gwella dy ragolygon gyrfa a chyflogadwyedd. • Caiff yr addysgu ei lywio gan weithgarwch ymchwil y staff a'n cryfderau sefydledig yn y meysydd pwnc hyn. • Wedi'i leoli'n bennaf ar ein campws ysbrydoledig ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe. • Mae ein myfyrwyr a'n staff hefyd yn cynnal gwefan gymunedol sy'n cynnwys newyddion a barn yr adran. • Mae Campws Singleton yn gartref i Ganolfan Celfyddydau Taliesin a Chreu Taliesin, sef theatr ddeinamig, sinema a mannau creu cynhwysol ar y campws. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus MA ALl RhA • Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon MA ALl RhA

• Newyddiaduraeth Ryngwladol MA ALl RhA • Rheoli (Cyfryngau) MSc ALl RhA * • Y Cyfryngau Digidol MA ALl RhA

O'r cyfryngau print a darlledu traddodiadol i ffilm a theledu, cyhoeddi digidol, rhwydweithio cymdeithasol, a chysylltiadau cyhoeddus, mae’r cyfryngau’n dylanwadu’n fwyfwy ar y ffordd rydym yn rhyngweithio â’n cymdeithas. Mae’n llunio ein ffordd o'n gweld ein hunain ac eraill, a gall fod yn arf bwerus i gyflawni newid cymdeithasol, er gwell neu er gwaeth. Mae ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil yn dy alluogi i ymchwilio i'r pynciau hyn, ochr yn ochr â mentora personol gan arbenigwyr yn dy faes astudio.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Un o brif elfennau ein rhaglenni yw'r prosiect mawr neu'r traethawd estynedig sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu arbenigedd mewn maes diddordeb penodol. • Os wyt ti eisoes yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r rhaglenni hyn yn cynnig sgiliau a chymwysterau dynamig yn y cyfryngau newydd i roi hwb i dy ddatblygiad proffesiynol parhaus. • Mae'r adran yn gartref i Ystafell Dylunio Adobe, Ystafell Creadigrwydd y Cyfryngau a Labordy Realiti Rhithwir. Mae'r labordai cyfrifiadurol a'r stiwdios fideo yn cynnwys cyfarpar fel cyfrifiaduron iMAC, offer Realiti Rhithwir, a meddalwedd safonol y diwydiant gan gynnwys Adobe Creative Cloud a Final Cut Pro X.

• Gelli di hefyd fanteisio ar stiwdios cynhyrchu clyweledol yr adran sy’n cynnig ystod lawn o gyfarpar, gan gynnwys sgriniau gwyrdd ac ystafelloedd golygu fideos. Dyma'r cyfle perffaith i ti fireinio dy sgiliau cynhyrchu cyfryngau ymarferol. • Rydym ni'n gartref i Ganolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH). Mae'r ganolfan yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio cyfarpar a dulliau digidol ar gyfer ymchwilio i fathau gwahanol o destun, data a chyfryngau, gan greu rhyngweithio rhwng ysgolheigion ar draws disgyblaethau'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae CODAH wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau a ariannwyd sydd wedi trawsnewid polisi, treftadaeth, pobl ac arferion. 

* Addysgir y cwrs ar Gampws Singleton a Champws y Bae Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64

Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

77

Made with FlippingBook - Online magazine maker