Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

CYMDEITHASEG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAMPWS SINGLETON

81 % YSTYRIR BOD

YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

RHAGLENNI YMCHWIL

• Polisi Cymdeithasol MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

• Cymdeithaseg PhD/MPhil ALl RhA • Dyniaethau Iechyd PhD/MPhil ALl RhA

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Daearyddiaeth Ddynol, PhD/MPhil • Datblygiad a Hawliau Dynol, MA • Gwyddor Chwaraeon, PhD/MPhil • Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol, MA • Troseddeg, PhD/MPhil PAM ABERTAWE? • Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol cyfoes allweddol o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol, gan archwilio themâu fel: cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch, dinasyddiaeth a moeseg ymchwil. • Mae cynnig ystod eang o fodiwlau dewisol yn golygu y gelli di deilwra dy astudiaethau i dy ddiddordebau a dy nodau. • Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd rhagorol, gan dy baratoi ar gyfer dy yrfa.

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Dulliau Ymchwil Gymdeithasol MSc ALl RhA

Achuba ar y cyfle i ymgolli ym myd difyr cymdeithas ac archwilio amrywiaeth eang o bynciau, ynghyd â rhoi sylw i dy ddiddordebau dy hun. Gan astudio mewn amgylchedd ymchwil dynamig, byddi di'n datblygu dy sgiliau dadansoddi ac ymchwil ac yn meithrin meddylfryd hyderus ac annibynnol – priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni'n darparu'r adnoddau i dy alluogi i ragori yn y maes o dy ddewis wrth feithrin dy dwf personol a phroffesiynol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Gelli di gael hyfforddiant mewn ystod o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol. • Byddi di’n dysgu gan arbenigwyr pwnc, gyda chyfoeth o brofiad academaidd ac ymarferol mewn ystod o feysydd ymchwil gan gynnwys: troseddeg, gwaith cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol, arweinyddiaeth a rheolaeth ymchwil.

• Mynd i'r afael â materion cymdeithasol o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol.

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

78

Made with FlippingBook - Online magazine maker