Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

PhD Cymraeg

Agweddau ar lên taith yn y Gymraeg mewn perthynas ag America Ladin

Dechreuodd yr ymchwil oherwydd y diddordeb sydd gen i mewn gwleidyddiaeth a llenyddiaeth, a'r cwestiynau moesegol am lên taith yn benodol. Yn yr ymchwil felly dewisais ganolbwyntio ar destunau yn y Gymraeg, wedi eu hysgrifennu am America Ladin, gan gynnwys y Wladfa, ond hefyd pethau sydd wedi eu hysgrifennu am wledydd fel Mecsico, Periw, a Bolifia. Mae’r ymchwil yn edrych ar werth dros ganrif o lyfrau, gan gynnwys awduron fel Eluned Morgan, T.H. Parry-Williams a T. Ifor Rees. Wrth ddarllen y testunau hyn roeddwn yn holi am rôl trefedigaethedd, imperialaeth, hunaniaeth Gymraeg, a gwrth-imperialaeth yn y gweithiau, a sut yr oedd hynny yn amrywio dros amser, ac mewn gwahanol rannau o America Ladin. Rydw i yn awdur a golygydd, ac yn gwneud gwaith ysgrifennu copi ac ati o ddydd i ddydd, felly roedd

astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn help mawr i mi. Er gymaint yr o’n i’n casáu gramadeg, dwi’n ddiolchgar am y gwersi hynny yn awr. Roedd yr adran yn apelio oherwydd y darlithwyr ac ymchwilwyr gwych sydd yno, a’r naws llai traddodiadol sydd i’r adran i gymharu efo rhai prifysgolion eraill. Ac wrth gwrs mae Abertawe yn lleoliad bendigedig i fyw ac astudio, dafliad carreg o Benrhyn Gŵyr. Mi gefais i brofiad da yn Abertawe, mae’r gymuned yn un fach ond clos, a chefnogol iawn. Fy nghyngor i, i unrhyw un sy’n bwriadu astudio cwrs ôl-radd yma ym Mhrifysgol Abertawe yw cysylltu efo’r adran er mwyn sgwrsio efo’r staff academaidd am dy syniadau, maen nhw’n gefnogol iawn.

Roedd yr adran yn apelio oherwydd y darlithwyr ac ymchwilwyr gwych sydd yno, a’r naws llai traddodiadol sydd i’r adran i gymharu efo rhai prifysgolion eraill.

79

Made with FlippingBook - Online magazine maker