Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MEDDYLIAU MAWR

CADAIR Y GYMRAEG

Tudur Hallam yw Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Brifardd, yn Gymrawd Fulbright ac yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, lle y mae’n Gadeirydd ar Bwyllgor y Gymraeg. Mae’n Gadeirydd hefyd ar Gymdeithas Astudiaethau’r Gymraeg ac mae’n aelod o fwrdd gweithredu’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol ym maes Astudiaethau Celtaidd dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Fe’i penodwyd gan HEFCW/HEFCE yn asesydd ar gyfer panel Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth REF 2021 (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil), gan ymuno â thîm o arbenigwyr i asesu gwaith ymchwilwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Yn lleol, mae’n llywodraethwr ysgol ac yn hyfforddwr pêl-droed i adran ferched Sir Gaerfyrddin. Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Abertawe yn 1999. Fe’i benodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Mae wedi dysgu modiwlau ym maes cymdeithaseg iaith, gramadeg, cyfieithu, llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol. Ei brif arbenigedd ymchwil yw barddoneg, sef edrych ar sut y mae iaith yn gweithio ac yn cael ei defnyddio, gan feirdd, ond gan bawb hefyd. Enillodd yr Athro Hallam ei ddoethuriaeth yn 2005. Cyfarwyddwyd ei draethawd gan yr Athro John Rowlands (Aberystwyth) a’r Athro Dafydd Johnston (Abertawe), a datblygodd y traethawd yn llyfr a’i gyhoeddi yn 2007, sef Canon Ein Llên. Cyhoeddodd ail fonograff yn 2013, Saunders y Dramodydd, ac yn fwy diweddar, Llawlyfr

Meistroli’r Gymraeg yn 2018 a’i gasgliad cyntaf o gerddi, Parcio, yn 2019. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o benodau ac ysgrifau ar wahanol agweddau o ddiwylliant y Gymraeg, gan gynnwys ambell un ar gyfer cynulleidfa ddi-Gymraeg, e.e. y ddarlith Chatterton ar farddoniaeth i’r Academi Brydeinig. Yn 2016-2017, enillodd gymrodoriaeth Fulbright i fyw a gweithio yn UDA, gan gymharu sefyllfa’r Gymraeg â’r diwylliant Latino yn bennaf. Gellir gweld ei ymateb creadigol i’r cyfnod hwn yn ei gyfrol farddoniaeth, Parcio, ac mae’r elfen gymharol – cymharu diwylliant Cymru ag eiddo gwledydd eraill – yn hydreiddio ei waith. Mae wedi cyfarwyddo ac arholi nifer o draethodau ymchwil MA a PhD ym maes ysgrifennu creadigol (barddoniaeth, drama a rhyddiaith), beirniadaeth a theori lenyddol, ôl-drefedigaethedd, cyfieithu, addysg a chynllunio ieithyddol, llenyddiaeth ganoloesol a chyfoes, ynghyd â llenyddiaeth deithio. Yn ystod ei ugain mlynedd yn Abertawe, mae’r Athro Hallam wedi creu a dysgu pob math o fodiwlau i fyfyrwyr ym maes iaith a chyfathrebu, cyfieithu, dwyieithrwydd ymarferol, hanes Cymru a’r Gymraeg, llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu creadigol.

Rydw i’n rhan o dîm egnïol o staff dysgu yn Adran y Gymraeg. Dw i wrth fy modd yn gweld myfyrwyr yn datblygu, a’r pleser mwyaf i mi yw eu gweld yn llwyddo, gydag ambell un yn ennill gwobrau cenedlaethol, gan gynnwys Gwobr Goffa Gwyn Thomas a Gwobr Goffa Merêd (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a chategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.

81

Made with FlippingBook - Online magazine maker