Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

DAEARYDDIAETH CAMPWS SINGLETON

GWYDDORAU AMGYLCHEDDOL (QS World University Rankings 2023) YN Y DU 250

RHAGLENNI YMCHWIL

• Arsylwi'r Ddaear MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Astudiaethau Trefol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Cyfryngau Daearyddol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Daearyddiaeth Ddynol PhD/MPhil ALl RhA • Daearyddiaeth Ffisegol PhD/MPhil ALl RhA

• Damcaniaeth a Gofod Cymdeithasol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Deinameg Amgylcheddol MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Modelu Amgylcheddol Byd-eang MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Rhewlifeg MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Ymfudo Byd-eang MSc drwy Ymchwil ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Mae dau o'n rhaglenni MSc wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (ar y cyd ag IBG). • Mae Amgylchedd Ymchwil ac Effaith Systemau'r Ddaear a'r Gwyddorau Amgylcheddol yn Abertawe wedi cyflawni sgôr o 100% o ran arwain y byd a rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Mae ein cyfleusterau'n cynnwys pymtheng gorsaf weithio dau brosesydd ar gyfer Arsylwi’r Ddaear, clwstwr Beowulf Amlbrosesydd 20 nod, ac uwch-gyfrifiadur ‘Blue Ice’ IBM yr Adran, sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer modelu hinsoddol a rhewlifegol. • Mae rhai o'n hacademyddion o fri rhyngwladol yn cynnwys yr Athro Tavi Murray, sef y fenyw gyntaf erioed i dderbyn Medal Begwn am wasanaeth rhagorol i ymchwil begynol; a’r Athro Adrian Luckman, a ddenodd sylw rhyngwladol am ymchwil i argyfwng yr hinsawdd i chwalu silff iâ Larsen C. • Byddi di hefyd yn cael dy addysgu gan yr Athro Peter North, a wnaeth gydweithio â NASA i wneud yr Amazon yn ‘wyrddach’; a’r Athro Siwan Davies, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gadarnhau pam mae newid yn yr hinsawdd wedi newid yn sydyn dros y 100,000 o flynyddoedd diwethaf, drwy archwilio dyddodion llwch llosgfynyddoedd mewn iaennau. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-Eang MSc ALl • Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd MSc ALl RhA

• Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd MSc ALl RhA

• Synhwyro o Bell Drôn Amgylcheddol MSc ALl

Dechreua ar daith gyffrous o ddarganfod, gan astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan ein hadran arbenigwyr byd-enwog mewn daearyddiaeth ddynol a ffisegol, sy'n ymrwymedig i ddarparu addysgu ac ymchwil heb ei ail. Ymuna â’n cymuned fywiog o ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymgolli mewn amgylchedd deinamig lle mae ymchwil arloesol yn cyfrannu’n weithredol at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Gweithredu ar yr Hinsawdd, Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy, a Dŵr Glân a Glanweithdra. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae dy ddysgu’n elwa o arbenigedd ymchwil

• Byddi di'n ennill gwybodaeth drylwyr arnat ti am y materion gwyddonol presennol sy’n sail i’r data daearyddol, deinameg newid yn yr hinsawdd ac amgylcheddol. • Mae rhywfaint o’n gweithgarwch diweddar wedi cynnwys olrhain silff iâ Larsen C, gan nodi coed olewydd wedi’u heintio drwy

staff Daearyddiaeth a’r Biowyddorau ym maes gwybodaeth ddaearyddol, deinameg amgylcheddol a’r hinsawdd, bioleg y môr ac ecosystemau a datblygu cynaliadwy.

Trosolwg o'r cwrs: MSc Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-eang

ddelweddu o bell, a monitro ansawdd dŵr yn dilyn tanau gwyllt yn Sydney.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

82

Made with FlippingBook - Online magazine maker