Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF CAMPWS Y BAE

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF YN Y BYD (QS World University Rankings 2023) 100

RHAGLENNI YMCHWIL

• Gwyddor Chwaraeon MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Rydym yn un o'r 51-100 o

• Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch MSc ALl • Seicoleg Chwaraeon, MSc ALl (yn dod yn fuan ym mis Medi 2024)

Adrannau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Uchaf yn y Byd (QS World Rankings 2023). • Rydym ni ymhlith yr 20 Uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil (The Complete University Guide 2024) a dyfarnwyd bod 100% o’n Hymchwil ‘yn arwain y byd’ ac ‘yn rhagorol • Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau a phartneriaid masnachol megis Diabetes UK, y Sugar Bureau, Haemair, Haemaflow Ltd, Chwarae Cymru, Ymddiriedolaethau’r GIG Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Undeb Rygbi Cymru, yr Uwch- gynghrair ac Actif Abertawe. • Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda thimoedd chwaraeon elît, gan gynnwys Chwaraeon y DU, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Rygbi’r Scartlets, Rygbi Biarritz, Rygbi’r Gweilch, Rygbi 7 Undeb yn rhyngwladol’ (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).

Astudia ar un o’n rhaglenni Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac archwilio maes hynod ddiddorol perfformiad y corff dynol. Gyda ffocws ar faterion cymdeithasol ehangach, o foeseg i bolisi cymdeithasol, seicoleg chwaraeon, a maetheg, byddwn yn dy baratoi ar gyfer gyrfa llawn boddhad mewn sectorau amrywiol. Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys Chwaraeon Elît a Phroffesiynol; Meddygaeth ac Iechyd Ymarfer Corff; Moeseg Chwaraeon; Uniondeb a Llywodraethu; Biomecaneg; Maetheg; Ffisioleg; Seicoleg Chwaraeon a Pholisi Cymdeithasol. P’un a oes gen ti ddiddordeb mewn perfformiad chwaraeon elît, gofal iechyd neu astudiaethau fferyllol, mae gennym yr adnoddau a’r wybodaeth i dy helpu i lwyddo.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni wedi’u hadeiladu ar arbenigedd staff a phartneriaethau i sicrhau bod myfyrwyr wedi’u harfogi â’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol allweddol sy’n ofynnol er mwyn gweithio ym maes diwydiant neu ymchwil. • Cei dy addysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw, a byddi di'n cael y cyfle i gydweithio ag arweinwyr diwydiant ac ymarferwyr.

• Mae gan staff gyfoeth o wybodaeth a phrofiad perthnasol gan eu bod yn ymgynghori’n rheolaidd mewn lleoliadau ymarfer corff â phoblogaethau â chlefyd cronig, gan gynnwys: diabetes, adferiad cardiaidd a gofal arennol. • Byddi di'n defnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn helaeth, gan gynnwys y Labordy Biomecaneg, y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff a Labordy Ymchwil A-STEM.

Rygbi Cymru, Nofio Prydain Fawr, a Bobslei Prydain Fawr.

• Bydd ein graddedigion yn barod am amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous, gan gynnwys

Gwyddonydd Perfformiad, Gwyddonydd Chwaraeon,

Ffisiolegydd Chwaraeon, Rheolwr Perfformiad, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, ac Ymchwilydd.

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

94

Made with FlippingBook - Online magazine maker