Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

GWYDDORAU MEDDYGOL A BYWYD – RHAGLENNI A ADDYSGIR CAMPWS SINGLETON

ANSAWDD YMCHWIL CYFFREDINOL YN Y DU 5

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

• Gwyddor Glinigol (Ffiseg Feddygol) MSc RhA • Meddygaeth Genomig MSc/PGDip/ PGCert ALl RhA • Nanofeddygaeth MSc/PGDip/PGCert ALl RhA • Niwrowyddoniaeth Feddygol MSc ALl RhA

• Addysg Feddygol MSc/PGDip/PGCert ALl RhA • Ffiseg Ymbelydredd Meddygol MSc ALl RhA • Gwyddor Biofeddygol (Biocemeg Glinigol) MSc/PGDip ALl RhA • Gwyddor Biofeddygol (Microbioleg Glinigol) MSc/PGDip ALl RhA • Gwyddor Biofeddygol (Patholeg Celloedd a Moleciwlaidd) MSc/PGDip ALl RhA

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gofal Iechyd Cymunedol, Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd Sylfaenol • Gwaith Cymdeithasol • Iechyd y Cyhoedd a'r Boblogaeth • Meddygaeth, Gofal Iechyd a Nyrsio • Proffesiynau Perthynol i Iechyd • Seicoleg a Niwrowyddoniaeth PAM ABERTAWE? • Caiff ein cyrsiau gwyddorau meddygol a bywyd eu haddysgu yn ein Hysgol Feddygaeth sy'n ymhlith y 5 Uchaf yn y DU (Times Good University Guide 2023) ¨ . • Byddi di'n elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, lle bydd llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau ar draws disgyblaethau. • Byddi di yng nghwmni arbenigwyr byd-eang ym meysydd meddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd, y mae 85% o'u hymchwil wedi cael ei chydnabod am arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF 2021). CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir yn y gwyddorau meddygol a bywyd yn opsiwn astudio perffaith i wella dy sgiliau, dy wybodaeth arbenigol a dy ragolygon gyrfa mewn meysydd gofal iechyd a'r gwyddorau bywyd lle mae galw mawr, gan weithio i fynd i'r afael ag anghenion presennol gweithlu'r GIG a gwella gwasanaethau gofal iechyd. Byddi di'n cael dy addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, gan ddefnyddio eu dealltwriaeth a'u hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang i lywio dy brofiad dysgu ac addysgu. Mae ein fframweithiau modiwlaidd wedi'u dylunio i gyd-fynd â bywydau prysur gweithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth ac iechyd.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mynediad at ein Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £100 miliwn ynghyd ag ystafelloedd Delweddu Clinigol sy'n cynnwys delweddu 3T, MRI a CT cydraniad uchel. • Addysg ryngbroffesiynol, gan elwa o dechnoleg ddysgu ymdrochol arobryn gwerth £5.2 miliwn.

• Teilwra dy opsiynau astudio ar gyfer dysgu llawn amser neu ran amser, ar-lein, ar y campws neu ddysgu cyfunol. • Perthynas weithio agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG yng Nghymru, gan hwyluso addysgu ac ymchwil ar y cyd.

¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.

Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

95

Made with FlippingBook - Online magazine maker