Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

GWYDDORAU MEDDYGOL A BYWYD - RHAGLENNI YMCHWIL CAMPWS SINGLETON

ANSAWDD YMCHWIL CYFFREDINOL YN Y DU 5

RHAGLENNI YMCHWIL

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

• Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd PhD/MD/MPhil/MSc drwy Ymchwil ALl RhA • Addysg Glinigol PhD ALl RhA • Canser a Genomeg PhD ALl RhA • Ffiseg a Delweddu Meddygol ALl RhA • Gwyddor Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS) MRes ALl RhA

• Microbioleg ac Imiwnoleg PhD ALl RhA • Nanofeddygaeth PhD ALl RhA • Niwrowyddoniaeth Feddygol PhD ALl RhA • Tocsicoleg a Ffarmacoleg PhD ALl RhA

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gofal Iechyd Cymunedol, Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd Sylfaenol • Gwaith Cymdeithasol • Iechyd y Cyhoedd a'r Boblogaeth • Meddygaeth, Gofal Iechyd a Nyrsio • Proffesiynau Perthynol i Iechyd • Seicoleg a Niwrowyddoniaeth • Byddi di yng nghwmni arbenigwyr byd-eang ym meysydd meddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd, y mae 85% o'u hymchwil wedi cael ei chydnabod am arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF 2021). PAM ABERTAWE? • Caiff ein cyrsiau gwyddorau meddygol a bywyd eu haddysgu yn ein Hysgol Feddygaeth sy'n ymhlith y 5 Uchaf yn y DU (Times Good University Guide 2023) • Byddi di'n elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, lle bydd llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau ar draws disgyblaethau. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae ein cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn y gwyddorau meddygol a bywyd wedi'u dylunio i dy helpu i gymryd y camau nesaf yn dy yrfa neu fynd â dy astudiaethau academaidd ymhellach. Manteisia’n llawn ar ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, ein harbenigedd rhyngddisgyblaethol a’n henw da sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ar gyfer ymchwil ac arloesi agored. Mae'r Ysgol Feddygaeth ymysg y goreuon yn gyson yn y DU sy’n golygu bod gennym effaith go iawn o ran gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru a’r byd. Bydd dy ddysgu’n cael ei gyfeirio gan ganfyddiadau diweddaraf staff o’r radd flaenaf ac arloesiadau sy’n torri tir newydd a byddi di’n elwa o ymagwedd ryngbroffesiynol a rhyngddisgyblaethol i wella canlyniadau iechyd.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, lle mae 100% o'n hamgylched ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021). • Mynediad at ein Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £100 miliwn ynghyd ag ystafelloedd Delweddu Clinigol sy'n cynnwys delweddu 3T, MRI a CT cydraniad uchel. • Addysg ryngbroffesiynol, gan elwa o dechnoleg ddysgu ymdrochol arobryn gwerth £5.2 miliwn. • Teilwra dy opsiynau astudio ar gyfer

• Perthynas weithio agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG yng Nghymru, gan hwyluso addysgu ac ymchwil ar y cyd.

Darganfydda fwy am gyfleuster Efelychu Prifysgol Abertawe – SUSiM

¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.

dysgu llawn amser neu ran amser, ar-lein, ar y campws neu ddysgu cyfunol.

Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

96

Made with FlippingBook - Online magazine maker