BEng Peirianneg Fecanyddol a PhD Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd. CYD- SEFYDLWYR MARINE POWER SYSTEMS. PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR
Mae Marine Power Systems (MPS) yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi caledwedd echdynnu ynni morol. Maent wedi datblygu technoleg ynni morol chwyldroadol a hyblyg y gellir ei ffurfweddu i harneisio pŵer o dyrbinau gwynt arnofiol, pŵer tonnau neu gyfuniad o ynni gwynt a thonnau, ar raddfa’r grid trydan. Mae’r ymagwedd hyblyg hon yn unigryw yn fyd-eang ac wedi’i phatentu gan MPS – a gallai gael effaith go iawn ar newid yn yr hinsawdd. Cawsom sgwrs â Gareth a Graham am eu hamser yn y Brifysgol, eu rolau presennol a’u gweledigaeth am ddyfodol lle bydd technoleg MPS yn cyflenwi ynni glân ac adnewyddadwy o’r môr i’r grid. Beth wnaeth i chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe? GS: Gwnes i ystyried ychydig brifysgolion, ond i fi, Abertawe oedd y dewis amlwg, heb os nac onibai. Gan fy mod i wedi byw ger y lli yn Plymouth a Chernyw, roedd Abertawe’n teimlo’n gartrefol – rhywle y gallwn i fod yn annibynnol, ond a fyddai hefyd yn fy ngalluogi i barhau â’m hobïau sef chwaraeon dŵr a syrffio. Yn ogystal, roedd ganddi enw da iawn ar gyfer Peirianneg, sef y pwnc gwnes i ei astudio. Wnes i ddim erioed edrych yn ôl. Un peth wnaeth y Brifysgol oedd caniatáu i fi ddilyn fy agenda fy hun. Gwnaeth yr adran ein grymuso ni fel myfyrwyr i fynd allan a gwneud pethau ac ehangu ein gorwelion. Hyd yn oed bryd hynny, roeddwn i’n meddwl bod y cyfleusterau’n ardderchog ond ar ôl i fi ymweld â Champws y Bae’n ddiweddar, rwy’n gallu gweld eu bod wedi gwella fwyfwy drwy gydol y blynyddoedd. GF: I mi, roedd y penderfyniad i astudio yn Abertawe’n eithaf hawdd; ces i fy magu ger y traeth yng Nghernyw ac roeddwn i am aros yn agos at y môr wrth astudio am fy ngradd! Yn ffodus, roedd gan Brifysgol Abertawe enw academaidd da a ches i ddim fy siomi gan y bywyd cymdeithasol chwaith. Roedd gen i ddarlithydd mecaneg hylifau da iawn o’r enw Roger Griffiths: roedd ganddo ddawn i wneud ei bwnc yn ddiddorol, o ddefnyddio hiwmor i esbonio problemau haniaethol. O ble daeth eich angerdd dros ynni adnewyddadwy a sut aethoch ati i droi hyn yn fodel busnes llwyddiannus? GF: Dwi wastad wedi ymddiddori mewn ynni adnewyddadwy, wedi poeni am newid yn yr hinsawdd, ac roeddwn i am weithio ar brosiectau a fyddai’n gwneud lles i’r byd. Heb os, mae’r diddordeb mewn ynni o’r tonnau yn deillio o fod y syrffiwr. Fel syrffiwr, roedd hi’n amlwg i mi fod gan ynni’r tonnau botensial enfawr a byddwn i’n myfyrio’n aml am ffyrdd o harneisio’r ynni mewn ffordd gywrain. GS: Yn ystod fy astudiaethau israddedig a Meistr, gwnes i lawer o waith ar ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adeiladu prototeip ynni’r llanw ar raddfa fach. Gwnaethon ni gwrdd pan oeddwn i’n astudio am fy PhD; roedd Graham yn dwlu ar
chwaraeon dŵr hefyd, ac mae ganddo feddwl peirianneg bendigedig. Yn 2008, sylweddolon ni yr hoffem ddechrau ein busnes ein hunain. Deilliodd y syniad ar gyfer y busnes o sylweddoli, er bod pobl eraill wedi ceisio datblygu system i echdynnu ynni o’r môr, nad oedden nhw wedi datrys yr heriau o ran harneisio ynni o’r môr, megis sefydlu a chynnal y cynnyrch. GF: Yn dilyn llawer o arbrofion meddwl a brasluniau aflwyddiannus, roeddem yn teimlo bod gennym rywbeth digon da i’w ddatblygu. O hynny ymlaen, yr amcan oedd tyfu’r busnes a datblygu’r dechnoleg fesul cam – pob un yn fwy (ac yn ddrutach) na’r un blaenorol. GS: Doedden ni ddim yn gwybod pa mor bell y byddai hyn yn mynd – ond gwnaeth y syniad ddatblygu’n gyflym, felly gwnaethom fuddsoddi cronfeydd personol sylweddol yn y busnes (yn hytrach na phrynu tai newydd neu geir crand!). Cawson ni hefyd gymorth gwych drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw eich uchafbwyntiau a’ch llwyddiannau mwyaf hyd yn hyn?
GF: Dwedwn i mai profi prototeip graddfa 1:4 o’n technoleg ynni’r tonnau oedd ein llwyddiant mwyaf hyd yn hyn – roedd yn ffrwyth blynyddoedd hir o waith gan dîm gwych o bobl. I gyrraedd y garreg filltir nodedig hon, roedd llawer o lwyddiannau llai sydd heb gael eu dathlu cymaint: sicrhau cyllid, datrys problemau technegol a recriwtio tîm dawnus oedd y prif rai. Fi sy’n arwain wrth ddatblygu’r dechnoleg, felly mae gweld y dechnoleg yn dwyn ffrwyth yn un o’r agweddau mwyaf gwobrwyol, mae hynny’n naturiol, ond mae arwain a datblygu’r tîm a llywio strategaeth y cwmni yr un mor wobrwyol. GS: Rydym wedi cael nifer o lwyddiannau mawr ers i ni ddechrau, ond roedd creu a phrofi prototeip ar raddfa, a brofwyd ar y môr yng Nghernyw ac a brofodd holl nodweddion newydd y dyluniad – prosiect gwerth £6m a ariannwyd yn rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) – yn un o’r rhai gorau’n bendant. Yn dilyn y llwyddiant, rydym
20
Made with FlippingBook Learn more on our blog