MSc Rheoli Iechyd A Gofal Uwch - Blwyddlyfr 2023

AM Y ACADEMÏAU DYSGU DWYS

Mae’r Ysgol Reolaeth yn falch o fod yn gartref i ddwy o’r pedair Academi Dysgu Dwys (ILA): yr Academi Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Academi Iechyd a Gofal yn Seiliedig ar Werth. Mae’r Academi dysgu Dwys yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gallu proffesiynol ac arweinyddiaeth systemau ledled Cymru, gan sicrhau parodrwydd i wynebu’r heriau ar gyfer systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory. Mae’r Academi Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi arweinwyr, uwch reolwyr ac arweinwyr y dyfodol, gan roi’r sgiliau iddynt ysgogi arloesedd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector. Mae’r Academi Iechyd a Gofal yn Seiliedig ar Werth yn ganolbwynt addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, sy’n datblygu gwybodaeth a mewnwelediad ar sut i ddatblygu ac ymgysylltu â systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal yn Seiliedig ar Werth (VBHC). Fe’i cynlluniwyd i hwyluso mabwysiadu egwyddorion VBHC yn llwyddiannus ar draws sefydliadau, gan gynnwys Systemau Iechyd, Gofal Cymdeithasol, y Trydydd Sector a’r Diwydiannau Gwyddorau Bywyd, ac i gefnogi drwy wasanaeth ymgynghori. MSc RHEOLI IECHYD A GOFAL UWCH Mae’r rhaglen MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch yn cynnig profiad addysgol unigryw a deinamig, sy’n cwmpasu dau lwybr gwahanol ond rhyng-gysylltiedig: Arloesi a Thrawsnewid, ac yn Seiliedig ar Werth. Gydag ymrwymiad i ragoriaeth mewn arweinyddiaeth gofal iechyd, mae’r MSc hwn yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r mewnwelediadau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lywio tirwedd gymhleth a chyfnewidiol rheoli a thrawsnewid gofal iechyd. P’un a wnaethoch ddewis y llwybr Arloesi a Thrawsnewid, sy’n canolbwyntio ar ysgogi newid ac arloesi mewn sefydliadau gofal iechyd, neu’r llwybr yn Seiliedig ar Werth, sy’n pwysleisio darparu gofal o ansawdd uchel sy’n cael ei fesur gan ganlyniadau, rydych bellach yn barod i fod yn arweinwyr ym maes gofal iechyd. Mae eich amser yn y rhaglen hon wedi meithrin meddwl beirniadol, arweinyddiaeth strategol, a dealltwriaeth ddofn o’r heriau a’r cyfleoedd ym maes iechyd a gofal modern a daw i ben gyda phrosiect ymchwil dylanwadol.

Made with FlippingBook HTML5