MSc Rheoli Iechyd A Gofal Uwch - Blwyddlyfr 2023

LAURA LLOYD DAVIES

RHEOLWR DATBLYGU CLWSTWR BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA

BIO Rwyf wedi gweithio ym maes Gofal Sylfaenol ers sawl blwyddyn ac ar hyn o bryd rwy’n Rheolwr Datblygu Clwstwr yn Natblygiad Prifysgol Hywel Dda yn darparu’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam. Fy niddordeb personol mewn datblygu newid yn ein systemau gofal iechyd ac yng nghyfeiriad strategol y Bwrdd Iechyd yw’r hyn sy’n fy ysgogi. Trwy fy rôl bresennol a’r cyfle hwn i astudio, rwy’n deall yr heriau allweddol sy’n wynebu Gofal Sylfaenol, yn lleol ac yn genedlaethol ac rwy’n awyddus i symud ymlaen. Mae’r MSc wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r wlad, dysgu sgiliau newydd ac ehangu fy ngorwelion.

EFFAITH YMCHWIL Mae’r trefniant cytundebol a’r trefniadau gwaith presennol ar gyfer contractwyr Gofal Sylfaenol a Chlystyrau sy’n gweithio yng Nghymru wedi’u cynllunio a’u darparu i raddau helaeth iawn gan Lywodraeth Cymru. Lansiodd Llywodraeth Cymru raglen gyflawni strategol ym mis Chwefror 2010 yn benodol ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Sylfaenol. Darparodd y strategaeth, o’r enw ‘Gosod y Cyfeiriad’, ganllaw i ffyrdd newydd o weithio’n lleol a dyma’r tro cyntaf yr oedd yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru gydweithio â nifer o randdeiliaid. Yn 2018, mabwysiadwyd y model sy’n dod i’r amlwg gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol fel y Model Gofal Sylfaenol i Gymru gyda’r diben o ymateb i Cymru Iachach drwy chwe ffrwd waith allweddol: Atal a Lles, Model 24/7, Data a Thechnoleg Ddigidol, Datblygu’r Gweithlu a Sefydliadol, Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Thrawsnewid a’r Weledigaeth ar gyfer y Clystyrau. Mabwysiadwyd Datblygiad Clystyrau Carlam gan bob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yng ngwanwyn 2022 a dechreuodd gwaith yn lleol i gyflwyno’r newidiadau gofynnol. Edrychodd fy astudiaeth ar yr effaith yn dilyn gweithredu Datblygiad Clystyrau Carlam ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2022. Y nod oedd canfod yr effaith y mae wedi’i chael ar flaenoriaethau’r Cydweithrediadau Proffesiynol a’r Arweinwyr Clystyrau ac ymgysylltu â chymheiriaid ac aelodau’r Clwstwr.

CATHERINE LAMB

MEDDYG TEULU – MEDDYGFA BERLLAN BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR

BIO Rwy’n Feddyg Teulu GIG sy’n angerddol am ddyfodol gofal sylfaenol yn enwedig rôl gofal iechyd digidol er mwyn gwella mynediad at ofal yn y gymuned yng Nghymru. Mae’r cwrs hwn wedi bod yn amhrisiadwy i’m dysgu ac rwy’n obeithiol ar gyfer datblygu darpariaeth gofal digidol mwy cydlynol a buddiol ar gyfer y dyfodol.

EFFAITH YMCHWIL Ymgymerais ag ymchwil ar effeithiolrwydd presennol ymgynghori o bell ym maes gofal sylfaenol a sut y mae angen mwy o le i wella yn y maes hwn o ddarparu gofal er mwyn sicrhau bod pwrs y wlad yn cael ei ddefnyddio’n briodol.

Made with FlippingBook HTML5