CA I S AM B E I R I ANWY R
ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG
Awyddech chi fod y DU yn cynhyrchu 200 miliwn tunnell o wastraff bob blwyddyn?
Economi Gylchol
Ceisio Atal y Diwylliant Taflu i Ffwrdd Dr Gavin Bunting
A ydych yn euog o brynu rhywbeth newydd yn lle atgyweirio’r hen un ? Neu uwchraddio eich ffôn a gadael eich hen un yn y drâr ? Awyddech chi fod y DU yn cynhyrchu 200miliwn tunnell o wastraff bob blwyddyn a bod chwarter ohono’n mynd i safleoedd tirlenwi ? Mae Dr Gavin Bunting, Athro Cyswllt a Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yma yn yr Adran Beirianneg, yn esbonio beth yw’r Economi Gylchol, sut y gall sefydliadau roi’r egwyddorion ar waith a sut y gall pob un ohonom ddechrau newid ein harferion er mwyn ceisio atal y diwylliant taflu i ffwrdd presennol a dechrau dod yn ‘users’ yn hytrach na ‘consumers’. Mae adnoddau sydd eu hangen arnom ar gyfer defnyddiau hollbwysig megis cynhyrchu pŵer, dyfeisiau meddygol, ceir a batris yn prinhau, felly a ddylem fod yn defnyddio’r adnoddau hyn fel petaent yn ddiderfyn ? Neu a ddylem fod yn meddwl am y dyfodol ? Mae’n bendant yn gwestiwn anodd, am fod pob un ohonom wedi bod yn y sefyllfa honno pan fydd ein ffôn, ein peiriant argraffu neu ein peiriant
golchi wedi torri, rydym yn pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision, ac wrth gwrs mae’n rhatach prynu un newydd na’i atgyweirio neu ei uwchraddio. Mewn gwirionedd, rydym yn aml yn cael ein hannog i brynu un newydd – ac yn aml hefyd – am yr ymddengys nad yw cynhyrchion yn gadarn nac yn cael eu gwneud i bara am fwy nag ychydig flynyddoedd byr. Ond pam felly ? Beth yw’r ateb ? Un ffordd o fynd i’r afael â’r gwastraff gormodol hwn fyddai newid i Economi Gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio fel eu bod yn para ac yn hawdd i’w hatgyweirio neu eu huwchraddio ac fel ei bod yn hawdd adfer ac ailgylchu deunyddiau crai ar ddiwedd oes y cynnyrch, yn lle eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Meddylfryd arall y gallem ei newid yw rhoi’r gorau i’r angen i fod yn berchen ar bethau a dewis eu rhentu neu eu cymryd ar brydles yn lle hynny, gan ddod yn ‘users’ yn hytrach na ‘consumers’. Mae newid y busnes model fel hyn yn bendant yn rhoi cymhelliant i gwmnïau sicrhau bod eu cynhyrchion yn gadarn neu’n hawdd i’w hatgyweirio fel y byddant yn para’n hwy, am eu bod
yn dal i berchen ar y cynnyrch ac am y byddant yn ei gael yn ôl ar ddiwedd ei oes. Ogymharu â’r sefyllfa bresennol lle mae cynhyrchion yn cael eu gwerthu i ni ac mae cwmnïau yn gobeithio na fyddant byth yn eu gweld eto. Fel peirianwyr, gallwn fod ar flaen y gad o ran dylunio cynhyrchion a seilwaith ar gyfer yr economi gylchol, gan ddarparu ar gyfer eu hadnewyddu a’u hailddefnyddio, datblygu deunyddiau newydd, tynnu adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol a deall lle mae cyfleoedd yn ystod cylch gwaith cynnyrch i leihau gwastraff neu allyriadau. Felly, y tro nesaf y byddwch yn mynd i brynu rhywbeth, gofynnwch i chi eich hun, a ellir ei atgyweirio ? A ellir ailgylchu’r deunyddiau ? Am faint o amser y bwriedir iddo bara ? A oes angen i chi ei brynu ? A allwch rentu’r cynnyrch ? Fel defnyddwyr (‘consumers’), gallwn helpu i ddatblygu’r maes hwn drwy brynu neu rentu cynhyrchion sy’n para, sy’n hawdd i’w hatgyweirio ac sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau sy’n hawdd i’w hailgylchu.
P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE
22
Made with FlippingBook Ebook Creator