Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Yn 2022, adroddwyd mai 900 oedd nifer y mentrau gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru 35 , cynnydd o 890 yn 2018 36 , ond yn parhau i fod ymhell o gyrraedd uchafbwynt 2015 o 955. 37 Yn hyn o beth, yn ogystal ag ymwneud â nifer y gweithwyr yn y gwasanaethau cyfreithiol, mae Cymru’n cymharu’n ffafriol â rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig, gan berfformio ar lefelau tebyg. 38 Fodd bynnag, mae cyfraniad y sector gwasanaethau cyfreithiol i ’r economi yn parhau yn sylweddol is nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

1.3 Materion sy'n effeithio ar dwf cyfredol ac yn y dyfodol

Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod sector cyfreithiol Cymru yn parhau i fod yn rhy fach, o leiaf o’i gymharu â Lloegr. Mae’r dyraniad annigonol o adnoddau i’r system gyfiawnder wedi bod yn her ers amser maith i’r sector cyfreithiol yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019. 39 Roedd hyn yn cynnwys gostyngiadau yng nghyllidebau Cyfiawnder S an Steffan a’r Swyddfa Gartref 40 – sydd i'w gweld yn parhau ar hyn o bryd, oherwydd effaith chwyddiant uchel 41 -, toriadau cymorth cyfreithiol 42 a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid 43 a Gwasanaeth Erlyn y Goron 44 . Yn ogystal â materion ariannu, mae'n ymddangos bod ffactorau eraill yn cyfyngu ar dwf y sector cyfreithiol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys: a) gwasgariad daearyddol, b) natur ddarniog a diffyg cydlyniad, c) diffeithwch cyngor, ch) mabwysiadu technoleg gyfreithiol yn araf.

a) Gwasgariad daearyddol

Fel y dangosir gan y data a archwiliwyd uchod, mae gwasgariad daearyddol gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru yn dangos crynodiad yn ne Cymru a gorllewin Cymru ac, o fewn y

35 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, “UK business; activity, size and location: 2022” (28 Medi 2022), ar gael yn https://cy.ons.gov.uk/businessindustryandtrade/business/activitysizeandlocation/bulletins/ukbusinessactivitysizeand

location/2022. 36 Ifan (n 5), 6. 37 Ibid. 38 Ifan (n 5), 27. 39 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1), pennod 2.

40 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1), para 2.99. Gweler hefyd Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, The spending of the Ministry of Justice (1 Hydref 2019), ar gael yn https://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CDP-2019- 0217/CDP-2019-0217.pdf. 41 The Law Society Gazette, “Autumn statement: Real terms cut for justice spending” (17 Tachwedd 2022), ar gael yn https://www.lawgazette.co.uk/news/autumn-statement-real-terms-cut-for-justice-spending/5114334.article. 42 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1), para. 2.103-2.105. 43 Ibid, para 2.110-2.111. 44 Ibid, para 2.118.

12

Made with FlippingBook HTML5