Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

rhanbarthau hyn, yng Nghaerdydd, Abertawe ac, i raddau llai, Casnewydd. Mae argaeledd gwasanaethau cyfreithiol yn rhannau gwledig Cymru, ac yn enwedig yn y Canolbarth, yn gyfyngedig. Gydag agosrwydd dinasoedd mwy gyda chrynodiad uchel o ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol ychydig dros y ffin o Gymru, megis Bryste, Caer, Manceinion a Lerp wl, mae’n debygol y bydd cwmnïau Cymreig ar eu colled i gwmnïau yn y dinasoedd hyn. Gallai’r rhesymau am hyn gynnwys gwell cysylltiadau trafnidiaeth, cystadleuaeth uwch yn gyrru costau i lawr, a chrynodiad uwch o arbenigedd yn y dinasoedd hyn.

b) Natur ddarniog a diffyg cydlyniad

Amlygodd Comisiwn Thomas, mewn sawl rhan o'i adroddiad, yr angen am annog mwy o gydweithredu o fewn y sector cyfreithiol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

a) cydweithio rhwng cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau proffesiynol eraill, i greu rhwydweithiau busnes, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig 45 ; b) cydweithio rhwng cwmnïau cyfreithiol, er enghraifft drwy drefniadau rhannu ffioedd ar gyfer atgyfeiriadau, yn enwedig i gefnogi cwmnïau cyfreithiol bychan 46 ; c) cydweithio rhwng cwmnïau cyfreithiol a phrifysgolion, i ddatblygu'r gronfa o raddedigion y gyfraith a chynyddu trosglwyddo gwybodaeth 47 . I gefnogi’r cydweithio hyn, awgrymodd Comisiwn Thomas amrywiaeth o fentrau gan gynnwys cynllun mentora a hyfforddi, gwasanaeth paru ar gyfer ymarferwy r sy’n ceisio uno eu busnesau, grwpiau trafod ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a hybiau cyfreithiol ledled Cymru. 48 Galwodd yr Arglwydd Lloyd- Jones, yn ei araith yn 2017 yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith, am gorff ymbarél i fod yn llais i Gymru gyfreithiol i annog cydweithredu a chydweithio gyda phwyslais ar hybu ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, gan sicrhau bod adnoddau Cymraeg ar gael, a sicrhau bod ysgolion y gyfraith yng Nghymru, y farnwriaeth a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn cael eu cefnogi i ddarparu neu dderbyn yr hyfforddiant angenrheidiol, gan gynnwys mewn technoleg gyfreithiol, i fod yn llwyddiannus yn ymarferol. 49 Mae Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Chymdeithas y Cyfreithwyr, SRA, a sefydliadau eraill, megis Legal News Wales, wedi cymryd camau i gynyddu cydlyniad a chydweithio yn y sector. Er enghraifft, mae Newyddion Cyfreithiol Cymru, ynghyd â Phwyllgor Technoleg y Gyfraith 45 Ibid, para 9.55. 46 Ibid, para 9.73. 47 Ibid, para 9.55. 48 Ibid, para 9.75 (ac yn cynnwys is-baragraffau). 49 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, Cyngor Cyfraith Cymru - Papur Trafod ac Ymgynghori (2018), ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-10/cyngor-cyfraith-cymru-papur-trafod- ymgynghori_0.pdf.

13

Made with FlippingBook HTML5