Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae cyfansoddiad y sector cyfreithiol yng Nghymru yn egluro rhai o'r heriau a wynebir wrth fabwysiadu technoleg. Nododd adroddiad gan Brifysgol Rhydychen ar gyfer yr SRA mai’r tri rhwystr pennaf i fabwysiadu technolegau newydd a adroddwyd gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol yw diffyg cyfalaf ariannol, diffyg staff ag arbenigedd priodol ac ansicrwydd rheoleiddiol. 67 Ar gyfer cwmnïau llai, byddai'r elfen o risg dan sylw yn fwy nag ar gyfer cwmnïau mwy, ac mae rhwystrau cost ac arbenigedd yn amlwg yn y cyd-destun hwn. 68 Mae’n bosibl y bydd awydd defnyddwyr hefyd yn llai mewn rhannau gwledig o Gymru, gan atal buddsoddiad gan gwmnïau cyfreithiol: rhybuddiodd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, am beryglon defnyddio technoleg yn gynyddol a digideiddio gwasanaethau, a allai o bosibl gyfyngu ar fynediad at gyfiawnder drwy eithrio’r 7% o’r boblogaeth nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd. 69 Mae gwersi o brofiad Technoleg Ariannol (FinTech) yn awgrymu bod Cymru, serch hynny, yn amgylchedd addawol ar gyfer trawsnewid y sector gwasanaethau traddodiadol yn rhai dynamig a yrrir gan dechnoleg. Yn wir, mae Technoleg Ariannol yn faes arloesi mewn technoleg sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru ac yn dangos yr hyn y gallai’r diwydiant Technoleg Gyfreithiol ei gyflawni yn yr un modd. Ar ôl y diwydiant lled- ddargludyddion cyfansawdd, Technoleg Ariannol (FinTech) yw'r maes datblygol mwyaf yng Nghymru. Mae busnesau newydd nodedig yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys Yoello, ap talu symudol; Coincover, sy'n diogelu asedau digidol; a Delio, sy'n cysylltu darpar fuddsoddwyr â chyfleoedd. Mae Cymru yn gartref i tua 128 o gwmnïau Technoleg Ariannol, a gyfrannodd £3.6bn i economi Cymru yn 2021. 70 Amcangyfrifir bod 55,000 o bobl yn cael eu cyflogi o fewn y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru, tua 16,000 o'r rheini yn y sector Technoleg Ariannol. 71 Amcangyfrifir bod 22,000 o fyfyrwyr yn astudio pynciau cysylltiedig â Thechnoleg Ariannol yng Nghymru. 72

67 M. Sako ac R. Parnham, Technology and Innovation in Legal Services: Final Report for the Solicitors Regulation Authority (University of Oxford, 2021), available at www.sra.org.uk/globalassets/documents/sra/research/chapter-2--- technology-and-innovation-in-legal-services.pdf?version=4a1bfe, at 31. 68 Ibid, 30. 69 Llywodraeth Cymru Sicrhau Cyfiawnder i Gymru (May 2022), available at https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-06/sicrhau-cyfiawnder-i-gymru-mai-2022.pdf. 70 FinTech Wales, 2021/2022 FinTech in Wales (2022), ar gael yn https://fintechwales.org/wp- content/uploads/2022/11/FinTech-Wales-Annual-Report-2022.pdf, yn 11. 71 Ibid, 25. 72 Trade and Invest Wales, Together Stronger: The Rise of Welsh FinTech (25 Ionawr 2023), ar gael yn https://tradeandinvest.wales/inside-story/together-stronger-rise-welsh-fintech.

16

Made with FlippingBook HTML5