Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Cefnogir y sector gan FinTech Wales, sefydliad nid er elw â'i ddiben yw dwyn ynghyd pobl ar draws y sector i rannu syniadau, cefnogi, hyfforddi ac adeiladu cymuned. Darperir cymorth perthnasol hefyd gan Busnes Cymru, Technology Connected, a Blockchain Connected.

2 – Technoleg Gyfreithiol, Technoleg y Gyfraith ac arloesi cyfreithiol: dyfodol gwasanaethau cyfreithiol

Yn y bennod hon, rydym yn trafod y rôl y mae technoleg yn ei chwarae wrth lunio dyfodol gwasanaethau cyfreithiol, gan adolygu rhai o'r mentrau mwyaf arwyddocaol sydd wedi cefnogi twf esbonyddol technoleg gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn dadansoddi’n fyr y ddau derm mwyaf cyffredin a ddefnyddir yn y sector i ddisgrifio’r defnydd o dechnoleg yn y gyfraith - Technoleg y Gyfraith (LawTech) a Technoleg Gyfreithiol (LegalTech) -, cyn diffinio arloesi cyfreithiol at ddibenion yr adroddiad hwn.

2.1 Cydnabod rôl technoleg yn y gyfraith

Mae rôl technoleg fel ffactor hollbwysig yn y broses o drawsnewid y sector gwasanaethau cyfreithiol wedi’i chydnabod ers tro byd mewn ymchwil academaidd 73 . Mae’r Athro Richard Susskind, ymchwilydd arloesol ym maes Technoleg Gyfreithiol, wedi awgrymu bod technoleg yn rym tarfol sy’n wynebu’r sector â’r angen i groesawu arloesedd: Yn hytrach nag awtomeiddio, mae llawer o systemau yn arloesi, sydd, o'm rhan i, yn golygu eu bod yn caniatáu inni gyflawni tasgau nad oeddent yn bosibl o'r blaen (neu hyd yn oed eu dychmygu). Mae neges ddwys yma i gyfreithwyr – wrth feddwl am dechnoleg a’r rhyngrwyd, nid awtomeiddio arferion gwaith presennol nad ydynt yn effeithlon yn unig yw’r her. Yr her yw arloesi, i ymarfer y gyfraith mewn ffyrdd na allem fod wedi eu gwneud yn y gorffennol.

73 Gweler, er enghraifft, William T. Braithwaite, “How is technology affecting the practice and profession of law?”, (1991) 22 Texas Tech Law Review 1113; DS. Wall a J. Johnstone, “The Industrialization o f Legal Practice and the Rise of the New Electric Lawyer: The Impact of Information Technology upon Legal Practice in the U.K.”, (1997) 25 International Journal of the Sociology of Law 95; R. Susskind, The future of law: facing the challenges of information technology (Clarendon Press 1998). Erbyn diwedd y 1990au, roedd rôl drawsnewidiol technoleg ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol eisoes wedi'i nodi a'i chydnabod.

17

Made with FlippingBook HTML5