Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae llawer o'r technolegau arloesol hyn yn tarfu. […] Bydd y technolegau arloesol hyn sy’n dreiddiol, sy’n tyfu’n esbonyddol, yn tarfu ar y ffordd y mae cyfreithwyr a llysoedd yn gweithredu ac yn eu trawsnewid yn sylweddol. 74 Y tu hwnt i’r byd academaidd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr y sector (Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Bwrdd Safonau’r Bar, Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol), a rhanddeiliaid allweddol eraill (gan gynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor y Bar) wedi dod i gasgliadau tebyg am rôl technoleg yn y gyfraith, gan geisio cefnogi'r sector i groesawu'r cyfleoedd ar gyfer twf technolegol. I gynnig ychydig o enghreifftiau yn unig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ariannu LawTech UK 75 , hwb sy’n cefnogi busnesau cyfreithiol newydd a chwmnïau cyfreithiol yn eu hymwneud â thechnoleg ac arloesi, a ddarperir ar y cyd â Tech Nation (tan 2023) a Codebase a Legal Geek (ar hyn o bryd). Ymhlith mentrau amrywiol eraill, mae LawTech UK yn darparu cyfleoedd rhwydweithio, addysg a hyfforddiant, cymorth i fusnesau newydd drwy flychau tywod a mentora, ac yn cynnull yr Regulatory Response Unit i gydlynu gwaith rheoleiddwyr. Mae Adran Gyfreithiol y Llywodraeth hefyd wedi partneru â Phrifysgol Rhydychen ar gyfer Oxford LawTech Education Programme 76 . Mae UKRI wedi ariannu ymchwil i dechnoleg gyfreithiol drwy ei Next Generation Services Industrial Strategy Challenge Fund 77 , tra bod Innovate UK wedi cefnogi nifer o fusnesau newydd ym maes technoleg gyfreithiol, drwy ei Gronfa Arloesedd Cynaliadwy 78 , y Global Incubator Programme 79 , y Labordy Arloesedd 80 , a chynlluniau eraill. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi ymchwil mewn technoleg gyfreithiol ac ymgysylltu â hi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal neu gomisiynu nifer o adroddiadau am y sector cyfreithiol yng Nghymru (o’r adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru 81 i adroddiad

74 R. Susskind, Tomorrow’s Lawyers: An Introduction to Your Future (2 il argraffiad, Gwasg Prifysgol Rhydychen 2017) 14- 15. 75 Gweler https://lawtechuk.io/. 76 Prifysgol Rhydychen, “Training lawyers for a digital world”, ar gael yn https://www.socsci.ox.ac.uk/training- lawyers-for-a-digital-world. 77 UKRI, Next Generation Services Challenges (Mawrth 2022), ar gael yn https://www.ukri.org/wp- content/uploads/2022/03/5980-Next-generation-brochure-CS-v2-1.pdf. 78 Neil Rose, “Law firm and start- ups awarded government cash to develop lawtech” (2 Rhagfyr 2020) https://www.legalfutures.co.uk/latest-news/law-firm-and-start-ups-awarded-government-cash-to-develop-lawtech.

79 UKRI, “Global Incubator Programme: business acceleration for SMEs”, ar gael yn https://www.innovateukedge.ukri.org/enter-new-markets/Global-Incubator-Programme. 80 TechUK, “New Innovation Lab launched by Innovate UK” (1 Gorffennaf 2019), ar gael yn https://www.techuk.org/resource/new-innovation-lab-launched-by-innovate-uk.html. 81 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (n 1).

18

Made with FlippingBook HTML5