Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae arloesedd cyfreithiol yn ganlyniad proses ymchwil a datblygu sy'n defnyddio technoleg i gyflawni newid yn y sector gwasanaethau cyfreithiol. Gall proses o'r fath gynnwys creu technoleg newydd neu roi technoleg sy'n bodoli eisoes ar waith, ac fe'i nodweddir gan y nod o ddatblygu prosesau, cynnyrch neu wasanaethau cyfreithiol newydd, neu gyflawni gwelliannau nad ydynt yn fân-welliannau i'r rhai presennol. Mae’r diffiniad hwn yn ddigon eang i gwmpasu ystod eang o arloesi technolegol, o ddulliau technoleg isel sy’n defnyddio technoleg sydd ar gael eang (fel Microsoft Excel) i greu offer defnyddiol ar gyfer cyfreithwyr, i ddulliau uwch-d echnoleg sy’n defnyddio technoleg flaengar (fel deallusrwydd artiffisial) i bweru gwasanaethau awtomeiddio contract na ellid eu rhagweld ond degawd yn ôl. Ar yr un pryd, mae'r diffiniad yn caniatáu i ni eithrio'r defnydd arferol o dechnoleg fel ffurf o arloesi: er bod defnyddio cysylltiadau rhyngrwyd cyflym, defnyddio apiau Microsoft 365, neu ddefnyddio technolegau fideo-gynadledda (Zoom, Microsoft Teams, Webex, ac ati.) oll yn welliannau pwysig i ffordd cyfreithwyr o weithio, mae eu cynnwys yn y cysyniad o “arloesi” yn gamarweiniol. Er mwyn diffinio arloesedd cyfreithiol ymhellach, yn enwedig gyda golwg ar werthuso cryfderau a gwendidau ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru yn well, rydym yn mabwysiadu’r model tetraddimensiynol a gynigiwyd gan Francis a Bessant 130 . Yn ôl y model hwn, mae arloesedd yn rhychwantu pedwar dimensiwn: 1. cynnyrch (product) , sy'n ymwneud â marchnata cynnyrch neu wasanaethau newydd; 2. proses (process) , sy'n canolbwyntio ar gyflenwi cynnyrch neu wasanaethau presennol trwy ddulliau arloesol; 3. safle (position) , sy'n newid y ffordd y mae'r cwmni'n cyflwyno ei gynnyrch a'i wasanaethau i'r cwsmeriaid; 4. sylweddol (paradigm) , sy'n amlygu newid radical yn y ffordd y mae'r cwmni'n ymdrin â phroblem fusnes benodol. Mae'n ymddangos bod y gynrychiolaeth hon o arloesedd yn cymhwyso'n dda i arloesi cyfreithiol sy'n cael ei yrru gan dechnoleg. Mae arloesedd cynnyrch yn hawdd i'w nodi yn y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan gwmnïau cyfreithiol a busnesau newydd, megis pyrth cleientiaid, offer adolygu contractau, apiau gwirio hunaniaeth, a llawer mwy. Mae arloesedd prosesau yn cyfeirio at dechnolegau a weithredir wrth ddarparu cynnyrch neu wasanaethau o'r fath, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, cynrychioli gwybodaeth, prosesu iaith naturiol, cadwyn bloc, ac ati. Mae arloesedd safle yn codi pan fydd cwmnïau cyfreithiol yn newid y

130 J. Tidd a J. Bessant, Managing Innovation: Integrating Technological, Market and Organizational Change (5 ed argraffiad, John Wiley 20 13) 24, gan ddyfynnu D. Francis a J. Bessant, “Targeting innovation and implications for capability development”, (2006) 25 Technovation 171.

25

Made with FlippingBook HTML5