Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

ffordd y maent yn ymdrin â chleientiaid presennol a darpar gleientiaid, er enghraifft cynnig arweiniad am ddim, offer hunanasesu, podlediadau a deunyddiau addysgol, ffurfiau newydd o gyfathrebu ac ymgysylltu, neu ffyrdd newydd o dalu am wasanaethau a'u darparu. Mae arloesedd sylweddol yn digwydd pan fydd cwmni cyfreithiol neu gwmni newydd yn datrys mater sy’n bodoli eisoes mewn ffordd radical newydd sy’n cael ei gyrru gan dechnoleg: Mae'n ymddangos bod Farewill, er enghraifft, wedi achosi newid sylweddol tebyg yn y maes ewyllysiau a phrofiant 131 . Ym mhennod 3, edrychwn ar enghreifftiau o arloesi mewn cwmnïau cyfreithwyr Cymreig gan ddefnyddio’r pedwar dimensiwn arl oesi a amlinellwyd uchod, cyn canolbwyntio ar fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu ym mhennod 4, lle deuwn ar draws arloesi sy’n croesi pob un o’r pedwar dimensiwn.

3 – Arloesedd Technoleg Gyfreithiol mewn cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru

Mae gallu cwmnïau cyfreithiol Cymru i gael neu ddatblygu technoleg wedi cael ei gwestiynu dro ar ôl tro, fel y trafodwyd ym mhennod 1. Mae nodweddion sector cyfreithiol Cymru yn rhoi rhywfaint o gyfiawnhad dros y pryderon hyn, gan fod cwmnïau cyfreithiol bach a chanolig yn gyffredinol yn wynebu mwy o rwystrau i fabwysiadu technoleg gyfreithiol, yn bennaf oherwydd costau a diffyg arbenigedd. 132 At hynny, efallai y bydd lefelau is o aeddfedrwydd digidol, problemau isadeiledd neu risgiau allgáu digidol yn effeithio ar gwmnïau cyfreithiol mewn rhannau gwledig o Gymru 133134 . 135 Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod arloesi mewn cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru yn iachach na’r disgwyl ac yn rhychwantu ystod dda o dechnolegau – ei brif wendid yw cynhwysiant, gan fod enghreifftiau o fabwysiadu a datblygu technoleg mewn cwmnïau bach ac ardaloedd gwledig yn parhau i fod yn brin. Yn y bennod hon, rydym yn adolygu enghreifftiau o arloesi ymhlith cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, er mwyn deall (i) ymagwedd sector cyfreithiol Cymru at dechnoleg, (ii) yr ystod o dechnolegau y mae cwmnïau cyfreithiol Cymru yn ymgysylltu â hwy, a (iii) gallu cwmnïau 131 Gweler https://farewill.com/. 132 Sako and Parnham (n 67), 30. 133 Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd, Digital technologies and future opportunities for rural businesses and areas in Wales (Ionawr 2019), ar gael yn https://www.caerdydd.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0008/1438802/Horizon-scanning_rural-opportunities-03.pdf, am 4. 134 Megis y diffyg cysylltiadau band eang cyflym iawn – gweler y BBC, “Broadband: Slow speeds risk 'excluding people from modern life'” (1 Awst 2022), ar gael yn https://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-62333335. 135 Gweler, am drosolwg, Cymunedau Digidol Cymru, “Cynhwysiant Digidol yng Nghymru”, sydd ar gael yn https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/cynhwysiant-digidol-yng-nghymru/.

26

Made with FlippingBook HTML5