cyfreithiol o Gymru i ddatblygu technoleg yn fewnol. Fel y trafodwyd yn yr adran gyntaf, nid yw'r bennod hon yn darparu map cynhwysfawr o'r lefelau mabwysiadu neu ddatblygu technoleg; yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar gyfres o enghreifftiau i gyffredinoli rhai sylwadau pwysig ar arloesedd Technoleg Gyfreithiol mewn cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru. Anogir cwmnïau cyfreithiol Cymreig sy’n ymwneud â mabwysiadu neu ddatblygu technoleg, nad ydynt yn cael sylw yn y bennod hon ar hyn o bryd, i gysylltu â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn legalinnovation@swansea.ac.uk. Yn dilyn adolygiad gan ein hymchwilwyr, byddwn yn diweddaru’r bennod hon gyda gwybodaeth am eich cwmni cyfreithiol a’i rôl mewn arloesi.
3.1Methodoleg a chyfyngiadau
Mae’r enghreifftiau yn y bennod hon wedi’u nodi ar sail gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd mewn nifer o ffynonellau ar-lein, gan gynnwys (i) gwefannau cwmnïau cyfreithiol a sianeli cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, LinkedIn, ac ati), (ii) papurau newydd lleol , (iii) datganiadau i'r wasg, (iv) gwefannau cyfreithiol a chylchgronau ar-lein (e.e. y Law Society Gazette). Cyfyngodd y dull hwn ein hymchwil i enghreifftiau o arloesi y mae cwmnïau cyfreithiol Cymru wedi rhoi cyhoeddusrwydd uniongyrchol neu anuniongyrchol iddynt. Lle nad yw c wmni cyfreithiol wedi cyhoeddi’r wybodaeth hon, am resymau a all amrywio o ddiffyg cymorth marchnata i asesiad o berthnasedd i ddarpar gwsmeriaid, nid yw felly wedi’i chynnwys yn y bennod hon. Yn yr un modd, nid ydym wedi cynnwys cwmnïau cyfreithiol sy'n darparu gwybodaeth gyhoeddus gyfyngedig am lefel eu mabwysiadu neu ddatblygiad technoleg, lle na allem gael dealltwriaeth glir o'r dechnoleg dan sylw nac agwedd y cwmni ati. Fel y soniwyd eisoes, rydym yn gwahodd unrhyw gwmni cyfreithiol o Gymru (neu gwmni sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru, fel y diffinnir isod) nad yw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn i gysylltu â ni, i’w gynnwys mewn fersiwn wedi’i diweddaru o’r bennod hon. At ddiben nodi cwmni cyfreithiol Cymreig, rydym wedi asesu presenoldeb pencadlys yng Nghymru, ni waeth beth fo maint y cwmni neu ei wasgariad daearyddol y tu hwnt i Gymru. Er y gall cwmni a nodir o Gymru yn ôl y maen prawf hwn fod yn mabwysiadu neu’n datblygu technoleg y tu allan i Gymru, rydym o’r farn bod presenoldeb pencadlys yng Nghymru yn awgrymu bod prosesau gwneud penderfyniadau perthnasol ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gallu gweinyddol ac arloesi perthnasol, yn bodoli yng Nghymru.
Yn ogystal â chwmnïau cyfreithiol Cymreig, rydym yn ystyried enghreifftiau o arloesi mewn cwmnïau sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru, fel y pennir gan fodolaeth swyddfa
27
Made with FlippingBook HTML5