Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Hugh James, a Harding Evans. Mae enghreifftiau o apiau arbenigol ar gyfer meysydd ymarfer diffiniedig yn cynnwys ap Adnoddau Dynol a ddatblygwyd gan Harding Evans, cynnyrch data ac ymgyfreitha gan Acuity Law, a gwasanaethau cydymffurfio gan Eversheds Sutherland. Canfuom hefyd enghreifftiau o offer technoleg isel a ddyluniwyd ac a ddatblygwyd gan Acuity Law, at ddefnydd mewnol ac allanol. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos bod cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru yn ymgysylltu ag arloesedd technolegol a bod ganddynt rywfaint o allu i ddatblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain. Fodd bynnag, ac eithrio pyrth cleientiaid, lle gwelsom enghreifftiau ohonynt ar waith ledled Cymru, mae’n ymddangos bod datblygu technoleg yn fewnol wedi’i ganolbwyntio, yn ôl y disgwyl, ymhlith cwmnïau cyfreithiol mawr yn ne Cymru. Ymhellach, nodwn yn gyffredinol (eto ac eithrio pyrth cleientiaid) fod cwmnïau cyfreithiol yn darparu gwybodaeth gyfyngedig am eu lefelau mabwysiadu neu ddatblygu technoleg, gan ddarparu darlun cyffredinol sy'n debygol o danamcangyfrif arloesedd technolegol yn sylweddol yn y sector. Rydym yn trafod hyn ymhellach yn adran 4, fel mater sy’n ymwneud ag arloesi sylweddol (paradigm).

(i) Pyrth cleientiaid

Gan ddechrau gyda phyrth cleientiaid, sy'n ymateb i alw eang am fynediad at ddogfennau a diweddariadau 141 , lansiwyd ‘Acuity Client Portal’ Acuity Law yn 2020 ar gyfer cleientiaid argadw'r cwmni “to provide Acuity Counsel Clients seamless access to live matters, financial reporting and a repository of legal documents and templates.” 142 Ehangwyd mynediad i’r porth i'r holl gleientiaid cyfredol a’r dyfodol ym mis Mawrth 2023. 143 Adeiladwyd y Porth gan ddatblygwyr mewnol Acuity wedi ymgynghori â chleientiaid ac mae'n rhoi buddion i gleientiaid megis y gallu i e-filio'n well, sgwrsio a mynediad i ffeiliau byw, templedi cyfreithiol, canllawiau 'sut i' ac erthyglau cyfreithiol. 144

Acuity Law Client Portal

Da tblygwyd porth ‘Pilot’ NewLaw Solicitors ar gyfer hawliadau anafiadau personol yn unig mewn ymateb i ddiwygiadau yn Neddf Atebolrwydd Sifil 2018 ac “wedi'i integreiddio'n llwyr

141 Dave Seager, “Tech for law firms in 2021 – it’s now about the personal touch” (Cymdeithas y Cyfreithwyr, 21 Medi 2021), ar gael yn https://www.lawsociety.org.uk/topics/small-firms/tech-for-law-firms-in-2021. 142 Acuity Law, “Acuity Law Portal Launches To Save Businesses Time & Money” (1 Mawrth 2023), ar gael yn https://acuitylaw.com/portal-launch/. 143 Ibid. 144 Ibid; gweler hefyd Acuity Law, “Acuity Client Portal”, https://acuitylaw.com/acuity-client-portal/.

30

Made with FlippingBook HTML5