Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

3.2 Arloesi ymhlith cwmnïau cyfreithiol Cymreig ac ymhlith cwmnïau cyfreithiol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru

Yn yr adran hon, rydym yn adolygu enghreifftiau o arloesi ymhlith cwmnïau cyfreithiol Cymreig a chwmnïau cyfreithiol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y pedwar dimensiwn arloesi a drafodir ym mhennod 2: cynnyrch (product), proses (process), safle (position), a sylweddol (paradigm). Rydym yn dod o hyd i enghreifftiau o arloesi ar draws tri o’r dimensiynau hyn, gyda ffocws cryf ar arloesi cynnyrch ac, yn gymharol, ffocws gwannach ar broses a s afle. Fel y trafodir isod, mae’r gwahaniaethau hyn yn awgrymu bod arloesedd yn cael ei yrru’n bennaf gan gyfleoedd masnachol (cynnyrch/product), yn hytrach nag ailwerthusiad o rôl a natur gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru (sylweddol/paradigm). Gallai my nd i’r afael â’r agwedd olaf fod yn ateb effeithiol i gynyddu ymgysylltiad ag arloesedd yn y sector cyfreithiol yng Nghymru, tra’n cefnogi awydd defnyddwyr a chryfhau hunaniaeth ac enw da’r sector.

a) Cynnyrch

Mae ein hymchwil wedi nodi nifer o enghreifftiau o gynnyrch arloesol a ddatblygwyd neu a roddwyd ar waith gan gwmnïau cyfreithiol Cymreig drwy ddefnyddio technoleg. Maent yn cynnwys y categorïau hyn:

i) pyrth cleientiaid, ii) apiau cwmnïau cyfreithiol, iii) apiau a gwasanaethau arbenigol, iv) offer technoleg isel.

Mae rhai o'r cynnyrch hyn yn deillio o weithredu datrysiadau masnachol presennol, sydd fel arfer wedi'u brandio a'u personoli gan y cwmni cyfreithiol, neu o waith dylunio a datblygu gan ddatblygwyr mewnol neu gontractwyr allanol. Yn yr isadrannau canlynol, rydym yn trafod enghreifftiau ar draws yr holl gategorïau hyn. Mae’n ymddangos bod technoleg porth cleientiaid yn cael ei defnyddio gan ystod eang o gwmnïau yng Nghymru: canfuom sawl enghraifft o gwmnïau yn rhoi datrysiadau masnachol presennol ar waith, gan gyflawni brandio ac integreiddio di-dor (e.e. integreiddiad HCR o iManage Share), ac ychydig o gwmnïau yn datblygu pyrth cleientiaid yn fewnol, i ddarparu ar gyfer gwasanaethau neu farchnadoedd penodol (e.e. peilot New Law Solicitor ar gyfer anafiadau personol, porth bancio Hugh James) neu i gynyddu effeithlonrwydd ac ymateb i ddisgwyliadau cleientiaid (Porth Cleientiaid Acuity). Mae ychydig o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru wedi datblygu apiau i gysylltu â’u cleientiaid, gan gynnwys Ever sheds Sutherland,

29

Made with FlippingBook HTML5