Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

(ii) Apiau cwmnïau cyfreithiol

Maes arloesi arall gan gwmnïau cyfreithiol yw cynhyrchu apiau, sy'n cefnogi ymarferoldeb pyrth cleientiaid, neu'n darparu swyddogaethau annibynnol, megis mynediad at ganllawiau a deunyddiau eraill, mynediad at wasanaethau penodol, neu wasanaethau cyfathrebu.

Mae Eversheds Sutherland wedi cynhyrchu nifer o apiau gan gynnwys Client Conversations, a lansiwyd yn 2018. Cafodd yr ap hwn ei “ddatblygu’n fewnol… [ac] mae ar gael i bob un o’r 5,000 o gyfreithwyr

a

thimau gwasanaethau busnes Eversheds Sutherland mewn 66 lleoliad ar draws 32 o wledydd.” 155 Mae’r ap “yn dod â gwybodaeth allweddol ynghyd am Eversheds Sutherland, ei leoliadau byd-eang, ei alluoedd, ei gynnyrch a’i atebion technoleg… ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi deialog gyda chleientiaid a darpar gleientiaid trwy roi mynediad hawdd i’r defnyddiwr at wybodaeth hanfodol am y busnes”. 156 Mae Eversheds Sutherland hefyd wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau sydd ar gael i'r cyhoedd ar ffurf apiau, yn ymdrin â phynciau'n ymwneud â chyllid cynaliadwy, contractio masnachol a mwy. Eversheds Sutherland’s UK Sustainable Finance Guide

Cyflwynodd Hugh James yr ap “Hugh James” yn 2019. Datblygwyd yr ap gan ddarparwr allanol, ac roedd yn caniatáu i gleientiaid gyfathrebu â'u cyfreithiwr, anfon negeseuon a lluniau, olrhain eu hachos, a gweld a llofnodi dogfennau. 157 Er i'r ap gael ei gyflwyno yn 2019 158 , gyda ffocws ar anafiadau personol, mae'n ymddangos ei fod wedi dod i ben ac nid yw ar gael ar

hyn o bryd yn yr App Store neu Google Play Store.

Ap Hugh James

155 Eversheds Sutherland, “Eversheds Sutherland launches Client Conversations App -based information tool rolled out across the business” (Eversheds Sutherland, 20 November 2018), ar gael yn https://www.eversheds- sutherland.com/lists/shownews.html?News=uk_Eversheds-Sutherland-launches-Client-Conversations-App. 156 Ibid. 157 Lavatech Limited, “Hugh James” (AppAdvice), ar gael yn https://appadvice.com/app/hugh-james/1474074828. 158 Ibid.

32

Made with FlippingBook HTML5