Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Lansiodd Harding Evans eu ap eu hunain yn 2018. Mae'r ap, a ddatblygwyd yn fewnol ar gyfer cleientiaid eiddo preswyl 159 , yn rhoi diweddariadau byw i gleientiaid ar gynnydd eu trafodion trawsgludo, y gallu i gael mynediad i ddogfennaeth, a'r posibilrwydd o gyfathrebu'n uniongyrchol â thîm Harding Evans 160 . Wedi'i frandio fel “yr arloesedd mwyaf newydd sy'n cael ei arwain gan gwsmeriaid mewn gwasanaethau cyfreithiol 161 ”, mae’r ap yn cael ei grybwyll ar wefan y cwmni cyfreithiol 162 , yn ogystal ag ar ei dudalennau Facebook, a chynhyrchodd gryn ddiddordeb yn y cyfryngau ar adeg ei lansio. 163

(iii) Apiau a gwasanaethau arbenigol

Mae apiau arbenigol fel arfer yn gweithredu mewn modd tebyg i apiau cwmnïau cyfreithiol, ond maent yn canolbwyntio ar feysydd ymarfer annibynnol ac yn darparu ystod ehangach o wasanaethau y tu hwnt i gyfnewid dogfennau a chyfathrebu. Yn 2015 164 , lansiodd Herding Evans ap arbenigol i roi arweiniad ar gydymffurfiaeth Adnoddau Dynol ac offer cyfrifo taliadau statudol. Roedd yr ap wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMAS) a Phrifysgol De Cymru. 165 Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod yr ap wedi dod i ben. Mae Acuity Law yn cynnig nifer o gynnyrch arbenigol. Mae Reputation Management yn uno amddiffyniad rheoli enw da corfforaethol, fel sesiynau rheoli argyfwng 24/7, e-ddysgu a sesiynau hyfforddi, ac offer archwilio eiddo deallusol a data. 166 Mae Data Assist yn cynnig cymorth a chyngor wedi’u teilwra am fygythiadau seiberddiogelwch, diogelu data a hylendid digidol, yn ogystal ag adroddiad archwilio sy’n amlygu unrhyw wendidau mewn diogelwch. 167 Mae Litigation Funding Assist “yn cynnig cyfraddau ariannu cystadleuol i gleientiaid Acuity, 159 Cyfreithwyr Harding Evans, “Harding Evans App” (Facebook, 23 Awst 201 8), ar gael yn https://www.facebook.com/HardingEvans/videos/harding-evans-app/251964395656900/. 160 Ibid. 161 Harding Evans Solicitors, “Moving House Just Got A Whole Lot Easier”, ar gael yn https://hardingevans.com/mango/#/. 162 Harding Evans Solicitors, “Buying a property”, ar gael yn https://www.hardingevans.com/services/residential- property/buying-a-property/. 163 South Wales Argus, “Newport law firm first in Wales to launch legal app” (20 Ebrill 2018), ar gael yn https://www.southwalesargus.co.uk/news/16173413.newport-law-firm-first-wales-launch-legal-app/. 164 Chloe Smith, “Newport solicitors offer clients HR app” (The Law Gazette, 15 Mehefin 2015), ar gael yn https://www.lawgazette.co.uk/practice/newport-solicitors-offer-clients-hr-app/5049384.article. 165 Ibid. 166 Gweler https://acuityreputationmanagement.com/. 167 Acuity Reputation Management, “Data Assist”, ar gael yn https://acuityreputationmanagement.com/data-assist/.

33

Made with FlippingBook HTML5