Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Masnachol yn gweithio'n agos gyda thîm Alacrity sy'n datblygu'r busnes Technoleg y Gyfraith cyntaf i ymddangos o'r uned hybu. 178

(iv) Offer technoleg isel

Mae'n anodd dod o hyd i enghreifftiau o offer technoleg isel, am mai at ddefnydd mewnol yn unig y caiff y rhain eu datblygu fel arfer. Fodd bynnag, mae dwy enghraifft o Acuity Law yn dangos y potensial i offer o'r fath ddatblygu'n gyfleoedd masnachol. Yr enghraifft gyntaf yw cyfrifiannell costau diswyddo a ddatblygwyd o fewn Acuity i “helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithlon” yn ystod cynllun ffyrlo Covid-19. 179 Yr ail enghraifft yw IR35 Assist, offeryn a ddatblygwyd o fewn Acuity i ymdrin â'r ddeddfwriaeth dreth newydd ac i “helpu cleientiaid terfynol i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau gyda phrofion pennu statws syml a dibynadwy.” 180 Mae'r ddau gynnyr ch yn cael eu “defnyddio'n fewnol ar draws tîm cyflogaeth Acuity a chan gleientiaid y cwmni”. 181

b) Proses

Mae enghreifftiau o arloesi prosesau mewn cwmnïau cyfreithiol Cymreig a chwmnïau cyfreithiol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru yn brin.

Mae Eversheds Sutherland wedi bod yn defnyddio Luminance, meddalwedd dadansoddi contractau dysgu peirianyddol blaenllaw, ers 2018. 182 At hynny, mae'r cwmni wedi partneru ag Open Text, yn 2017, i greu E/S Locate, platfform e-ddarganfod a ddefnyddir yn fewnol ar gyfer adolygu dogfennau â chymorth technoleg. 183 Trosglwyddodd Blake Morgan, yn 2018, i blatfform meddalwedd Peppermint i gyflawni arbedion effeithlonrwydd wrth gofnodi amser, bilio ac archifo. 184

Mae rhai cwmnïau cyfreithiol wedi buddsoddi mewn cyfleusterau er mwyn darparu cyngor cyfreithiol trwy gyfrwng gwahanol, megis Gamlins Law, y gwnaeth eu symud i brif swyddfa

178 Ibid. 179 Mark Alaszewski, “Cost Savings Following Furlough – The Importance of Planning Ahead” (Acuity Law, 28 Ebrill 2020), ar gael yn https://acuitylaw.com/cost-savings-following-furlough-the-importance-of-planning-ahead/. 180 Rebecca Mahon, “Be Prepared for IR35” (Acuity Law, 5 Hydref 2020), ar gael yn https://acuitylaw.com/be- prepared-for-ir35/. 181 Acuity Law, “Acuity Law Solicitor Named Rising Star At Wales Legal Awards 2022” (1 Mehefin 2022), ar gael yn https://acuitylaw.com/rising-star-award-adam-mcglynn/. 182 Global News, “Eversheds Sutherland joins forces with Luminance” (16 Gorffennaf 2018), ar gael yn https://www.legalitprofessionals.com/global-news/10776-eversheds-sutherland-joins-forces-with-luminance. 183 Artificial Lawyer, “Eversheds Launches Own eDiscovery Platform with OpenText” (18 Mai 2017), ar gael yn https://www.artificiallawyer.com/2017/05/18/eversheds-launches-own-ediscovery-platform-with-opentext/.

184 Legal Futures, “Blake Morgan live on the Peppermint Platform” (9 Ebrill 2018), ar gael yn https://www.legalfutures.co.uk/associate-news/blake-morgan-live-on-the-peppermint-platform.

35

Made with FlippingBook HTML5