Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

newydd yn 2021 roi’r cyfle i’r tîm Troseddu ychwanegu cyfleuster fideo -gynadledda pwrpasol ar gyfer gwrandawiadau ar-lein. 185

c) Safle

Mae ein hymchwil wedi nodi tri phrif faes o arloesi safle: (i) gwasanaethau seiliedig ar danysgrifiadau, (ii) addysg gyfreithiol a chydweithio, (iii) ymrwymiadau amlwg i arloesi a thechnoleg gyfreithiol. Mae gwasanaethau sy’n seiliedig ar danysgrifiad yn dynodi ymagwedd newydd at y farchnad gyfreithiol ond maent yn ymddangos yn gyfyngedig i gwmnïau cyfreithiol mawr sy’n gallu trosoli arbenigedd tra arbenigol mewn meysydd penodol: mae hyn yn awgrymu y gallai modelau tanysgrifio ddod â chostau buddsoddi cychwynnol uchel (i greu’r bwndel o wasanaethau sydd eu hangen) ynghyd â chostau parhaus yr un mor uchel (i gefnogi cleient mawr yn barhaus), sy’n rhwystrau sylweddol i gwmnïau cyfreithiol bach a chanolig eu m aint. Mae'r cynnydd mewn fforymau, podlediadau a mentrau eraill sydd i fod i gynyddu mynediad i ganllawiau cyfreithiol a meithrin cydweithredu, yn ddatblygiad safle pwysig. Ymddengys ei fod yn lleihau rhwystrau i ymgysylltu, tra'n darparu cyfleoedd i gwmnïau cyfreithiol gyrraedd cleientiaid newydd a chryfhau eu brand, gan ddefnyddio technolegau a ddefnyddir yn eang ac sydd ar gael i ddefnyddwyr a chwmnïau. Yr un mor bwysig yw'r ymrwymiad i arloesedd cyfreithiol a thechnoleg y mae gwobrau, marchnata a recriwtio yn tystio i hynny. Canfuom sawl enghraifft o arloesi safle yn hyn o beth, er bod y rhain yn dangos y tueddiad arferol tuag at dde Cymru a chwmnïau cyfreithiol mawr. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod rhai cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru yn ceisio amrywio eu strategaethau arloesi, gan gynnwys drwy drawsnewid eu hymgysylltiad â chleientiaid presennol a darpar gleientiaid, y cyhoedd yn gyffredinol, a chymdeithas. Ymddengys eu bod hefyd yn gwerthfawrogi eu henw da fel arloeswyr neu fabwysiadwyr cynnar technoleg. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y strategaethau hyn yn codi o ganlyniad i arloesi cynnyrch, gan fod yr holl enghreifftiau a nodir yn yr adran hon yn ymwneud â chwmnïau cyfreithiol sydd hefyd yn ymwneud ag arloesi cynnyrch. Mae ein canfyd diadau’n cryfhau’r casgliad petrus y gallai cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru elwa ar ddull arloesi sy’n canolbwyntio llai ar gynnyrch

(i) Gwasanaethau tanysgrifio

185 Lisa Baker, “Gamlins Law crime team invests in new technology” (News From Wales, 13 Mai 2021), ar gael yn https://newsfromwales.co.uk/gamlins-law-crime-team-invests-in-new-technology/.

36

Made with FlippingBook HTML5