Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae Acuity Law, fel y trafodwyd uchod, yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol sydd ar gael trwy danysgrifiad, gan gynnwys Data Assist a Litigation Funding Assist. Mae Acuity Counsel Service yn cynnig mynediad hyblyg i gyngor cyfreithiol ar ystod o feysydd ymarfer i gefnogi anghenion busnes ar gyfradd gyfunol ostyngol fisol, gan ddarparu mynediad i dempledi cyfreithiol trwy borth cleientiaid.

(ii) Addysg gyfreithiol a chydweithio

Mae Blake Morgan yn cynnig amrywiaeth o fforymau sy'n rhad ac am ddim i ymuno â nhw ac sydd wedi'u targedu at ddiwydiannau neu rolau penodol. Y fforymau sydd ar gael ar hyn o bryd yw: • Counsel+ – ar gyfer cyfreithwyr mewnol; • Developing Connections – ar gyfer y diwydiant eiddo tiriog; • FD Connect – ar gyfer cyfarwyddwyr cyllid, prif swyddogion cyllid ac uwch- arweinwyr cyllid eraill; • Investing in Success – ar gyfer helpu busnes gyda phynciau fel lles meddyliol, diwylliant ac amrywiaeth; • NED Connect – ar gyfer Cyfarwyddwyr Anweithredol; a • Women in Leadership – ar gyfer arweinwyr busnes, perchnogion ac entrepreneuriaid benywaidd.

Mae gan yr holl fforymau restr bostio ac maent yn cynnig nifer o weminarau a chyfleoedd rhwydweithio i'w haelodau yn ogystal ag adnoddau dysgu a diweddariadau cyfreithiol. 186

Mae Acuity Academy yn cynnig cyfres lawn o hyfforddiant ac offer i fusnesau sydd am uwchsgilio eu gweithlu, gan gwmpasu meysydd cydymffurfio, contractau masnachol a rheolaeth gorfforaethol a diwylliannol. Cyflwynir y cyrsiau trwy ddosbarthiadau yn y cnawd a gweminarau. 187 Mae podlediadau yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd i gwmnïau cyfreithiol ymgysylltu â'u cleientiaid a'r gymuned ehangach. Mae cynhyrchu podlediadau yn tueddu i fod yn gyfyngedig i'r cwmnïau cyfreithiol mwy, er nad yw'n ymddangos bod rhwystrau sylweddol o ran

186 Blake Morgan, “Blake Morgan Forums”, ar gael yn https://www.blakemorgan.co.uk/bm-forums/. 187 Acuity Academy, “Homepage”, ar gael yn https://acuity-academy.com/>

37

Made with FlippingBook HTML5