Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

materion yn ymwneud â seiberddiogelwch a thrawsnewid digidol, gyda ffocws ar yswiriant. 197 Cyhoeddodd Harding Evans, yn 2021, hefyd rai penodau podlediad ar ystod o bynciau, o ymddiriedolaethau anafiadau personol i weithio hybrid. 198

(iii) Ymrwymiadau amlwg i arloesedd a thechnoleg gyfreithiol

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n ymddangos bod mwy a mwy o gwmnïau cyfreithiol wedi cryfhau eu hymrwymiad i arloesi cyfreithiol. Mae gwobrau cyfreithiol yn arddangos ymrwymiadau o'r fath yn gyhoeddus, tra bod prosesau recriwtio a swyddi cysylltiedig â thechnoleg yn cadarnhau'r ymrwymiadau hyn yn fewnol. Cynhaliodd Wales Legal Awards eu digwyddiad agoriadol yn 2019, gyda chategorïau gwobrau ar gyfer meysydd ymarfer amrywiol yn ogystal â gwobrau i Dîm Cyfreithiol y Flwyddyn Cymru a Seren Newydd y Flwyddyn, ond nid oedd gwobr am arloesi na defnyddio technoleg. 199 Yn 2020 cynhaliwyd y digwyddiad yn rhithiol oherwydd y pandemig a chyflwynwyd categori newydd, 'Arloesi mewn Ymateb i Covid-19'. 200 Enillydd y wobr hon oedd Agri Advisor Legal LLP, i “ddathlu ei ymateb penderfynol a phwerus i’r pandemig i gefnogi cleientiaid a’i bobl”. 201 Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiad yn 2021, ond yn 2022 cyflwynwyd gwobr Arloesedd ym maes Gwasanaethau Cyfreithiol, 202 a enillwyd gan NewLaw Solicitors am eu porth 'Pilot'. 203 Hefyd o bwys yng ngwobrau 2022 oedd bod Adam McGlynn, o Acuity Law, wedi ennill Seren Newydd y Flwyddyn, gyda'r beirniaid yn dweud “mae ei syched am dechnoleg gyfreithiol ynghyd â’i angerdd am ddar paru atebion cyfreithiol ymarferol wedi arwain at ddatblygu, darparu a gweithredu atebion cyfreithiol pwrpasol sy'n arwain y diwydiant”. 204 Y tu allan i Wales Legal Awards, yn 2020 enillodd Eversheds Sutherland Dîm Technoleg y Flwyddyn yn y British Legal Technology Awards. 205 197 Sue Wardle, “Capital Ideas: managing cyber security” (Capital Law, 19 Mawrth 2021), ar gael yn https://www.capitallaw.co.uk/news/2021/03/19/capital-ideas-managing-cyber-security/. 198 Harding Evans Solicitors, “The HE Podcast” (PodBean), ar gael yn https://hardingevans.podbean.com/. 199 Wales Legal Awards, “2019 Winners”, ar gael yn https://waleslegalawards.com/2019-winners/. 200 Wales Legal Awards, “2020 Winners” (12 Medi 2020), ar gael yn https://waleslegalawards.com/news/wales-legal- awards-2020-winners-announced/. 201 Wales Legal Awards, “Congratulation” (Twitter, 11 Medi 2020), ar gael yn https://twitter.com/waleslegalaward/status/1304499603774021632. 202 Wales Legal Awards, “Wales Legal Awards 2022 winners announced in a celebration of excellence in the profession” (24 Mai 2022), ar gael yn https://waleslegalawards.com/news/wales-legal-awards-2022-winners- announced-in-a-celebration-of-excellence-in-the-profession/. 203 NewLaw Solicitors, “NewLaw Collect Innovation in Legal Services Award” (26 Mai 2022), ar gael yn https://www.new-law.co.uk/news/article.aspx?id=138. 204 Lisa Baker, “Acuity Law solicitor named Rising Star at Wales Legal Awards” (News From Wales, 30 Mai 2022), ar gael yn https://newsfromwales.co.uk/acuity-law-solicitor-named-rising-star-at-wales-legal-awards/. 205 British Legal Technology Awards, “2020 Winners”, ar gael yn https://www.britishlegalitawards.com/2020- winners/.

39

Made with FlippingBook HTML5