Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

O ran recriwtio a hyfforddi staff, rydym wedi dod o hyd i rai enghreifftiau clir o ymrwymiad i dechnoleg ac arloesedd. Yn 2019, ailstrwythurodd Eversheds Sutherland eu timau technoleg, gan wahanu TG swyddfa gefn oddi wrth y Tîm Arloesi Byd-eang newydd ei greu, 206 a hyn wedi'i yrru gan alwadau technolegol cynyddol gan eu cyfreithwyr a’u cleientiaid, yn ogystal â’r “cyfle y mae technoleg yn ei gynnig o ran tarfu ar y sector cyfreithiol”. 207 Yna lansiodd y cwmni Techtober yn 2021, gan ddarparu cyfres o fodiwlau hyfforddi technoleg a meddwl dylunio, arddangosiadau rhyngweithiol, paneli cleientiaid a hacathon byd-eang, i bob cyfreithiwr a thîm cymorth busnes yn fyd-eang. 208 Yn ogystal, ym mis Mawrth 2022 lansiodd Eversheds Sutherland ei Gynllun Graddedigion Technoleg Gyfreithiol cyntaf, sef cynllun dwy flynedd lle mae graddedigion yn gweithio o fewn “tîm dylunio gwasanaethau cyfreithiol y cwmni ac ar ei gymwysiadau technoleg gyfreithiol, yn ogystal â chylchdroi rhwng y timau technoleg gyfreithiol m ewn dau o bum grŵp ymarfer y cwmni”. 209 O fewn ei staff ehangach, mae Eversheds Sutherland hefyd yn cyflogi amrywiaeth o bersonél sy’n gweithio ochr yn ochr â’u timau cyfreithiol, gan gynnwys “rheolwyr prosiect cyfreithiol, technolegwyr cyfreithiol, dadansoddwyr busnes, datblygwyr, rheolwyr newid ac arbenigwyr gwybodaeth a dylunio gwasanaethau”. 210 Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithiol mawr yn cyflogi cyfarwyddwyr neu weithredwyr TG, neu gyfarwyddwyr gweithrediadau â chymwyseddau TG, gan gynnwys Acuity Law 211 , CJCH Solicitors 212 , RDP Law 213 , HCR Law (sy'n cyflogi Cyfarwyddwr TG a Chyfarwyddwr TG

206 Eversheds Sutherland, “Eversheds Sutherland Creates Dedicated Global Innovation Team” (19 Chwefror 2019), ar gael yn https://us.eversheds-sutherland.com/NewsCommentary/Press-Releases/218105/Eversheds-Sutherland- Creates-Dedicated-Global-Innovation-Team. 207 Caroline Hill, “Eversheds Sutherland and Clifford Chance split innovation and back office tech teams” (Legal IT Insider, 23 Ionawr 2019), ar gael yn https://legaltechnology.com/2019/01/23/eversheds-sutherland-and-clifford- chance-split-innovation-and-back-office-tech-teams/. 208 Eversheds Sutherland, “Eversheds Sutherland launches Techtober alongside its first Legal Technology Graduate Scheme” (5 Hydref 2021 ), ar gael yn https://www.eversheds- sutherland.com/lists/shownews.html?News=uk_Eversheds_Sutherland_launches_Techtober. 209 Ibid. 210 Eversheds Sutherland, “Service Excellence", ar gael yn https://www.eversheds- sutherland.com/global/en/what/practices/service-excellence/index.html. 211 Acuity Law, “Gemma Collins”, ar gael yn https://acuitylaw.com/people/gemma-collins/. 212 CJCH Solicitors, “Leadership Team”, ar gael yn https://www.cjchsolicitors.co.uk/leadership-team/. 213 RDP Law, “About us”, ar gael yn https://rdplaw.co.uk/about-us/.

40

Made with FlippingBook HTML5