Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mewnol 214 ), Blake Morgan 215 , a llawer o rai eraill heb os ( ar gyfer y paragraff hwn a’r paragraff nesaf, gweler droednodyn 216 ). 216

Mae nifer cynyddol o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru hefyd yn cyflogi datblygwyr meddalwedd. Cyflogodd Blake Morgan ddau ddatblygwr Dynamics 365 yn 2020. Mae HCR Law yn cyflogi Uwch-arbenigwr Cymorth Cymwysiadau a Datblygwr Cymwysiadau TG. Aeth Acuity Law ati i gyflogi Uwch-ddatblygwr ac Is-ddatblygwr Meddalwedd yn 2020 a 2022 yn y drefn honno. Cyflogodd Hugh James Swyddog Gweithredol Trawsnewid Digidol Arbenigol yn 2019 ac mae wedi recriwtio amrywiaeth o ddatblygwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Clarke Willmott wedi recriwtio Datblygwyr Cymwysiadau Cyfreithiol a Datblygwyr TG. Mae Geldards wedi bod â Rheolwr Datblygu TG ers 2014 ond ychwanegodd Ddatblygwr TG ychwanegol yn 2018, a ddaeth yn Ddatblygwr Arweiniol yn 2021. Mae gan NewLaw Solicitors Uwch-ddatblygwr Cymwysiadau a Pheiriannydd Meddalwedd, mae gan Howells Solicitors Uwch-ddatblygwr TG a gynorthwyir gan Ddatblygwr Rheoli Achosion a Meddalwedd ac mae gan gwmnïau llai fyth megis Harding Evans Solicitors Beiriannydd Datblygu Meddalwedd ar eu staff. Mae tystiolaeth hefyd bod cwmnïau cyfreithiol yn gynyddol recriwtio hyfforddeion sydd â diddordeb, neu arbenigedd, mewn technoleg gyfreithiol. Fel hyfforddai yn Acuity Law, cynhyrchodd Adam McGlynn (sydd bellach yn gyfreithiwr gyda'r cwmni) nifer o gynnyrch Technoleg Gyfreithiol sydd wedi’u masnacheiddio’n ddiweddarach ar ôl datblygiad pellach – yn 2022, daeth y cwmni hefyd yn aelod o’r Legal Technology Association. 217 Recriwtiodd Capital Law hyfforddai gyda PhD mewn Technoleg Gyfreithiol yn 2022. 218 Yn olaf, mae cwmnïau cyfreithiol llai, nad oes ganddynt efallai eu staff eu hunain yn ymroddedig i ddatblygu technoleg, wedi dangos diddordeb cynyddol mewn technoleg o hyd. Mae Cyfarwyddwr Ymarfer DJM Solicitors, Barry Davies, wedi nodi yn y gorffennol bod y cwmni’n arsylwi’n frwd ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial yn y sector cyfreithiol “ac yn ystyried a oes unrhyw agweddau o[’u] gwaith a allai elwa ar lefel o awtomeiddio”. 219 Mewn 214 Gwybodaeth a ddarparwyd gan Nicola McNeely, Pennaeth Technoleg HCR Law, yn ystod sgyrsiau anffurfiol gyda'r tîm ymchwil. 215 Blake Morgan, “Blake Morgan appoints new Director of Innovation and Technology” (21 Hydref 2 021), ar gael yn https://www.blakemorgan.co.uk/press/blake-morgan-appoints-new-director-of-innovation-and-technology/. 216 Sylwer: lle na nodir yn wahanol, cafwyd yr wybodaeth ar gyfer hyn a'r paragraff canlynolo broffiliau LinkedIn cyhoeddus. Mae ffynonellau ar ffeil gyda'r awduron ac ar gael ar gais (legalinnovation@swansea.ac.uk). 217 West Wales News from NTSI, “Acuity Law becomes member of Legal Technology Association” (1 Awst 2022), ar gael yn https://westwalesnewsdesk.co.uk/2022/08/01/acuity-law-becomes-member-of-legal-technology-association/. 218 Capital Law, “Oliver Wannell”, ar gael yn https://www.capitallaw.co.uk/people/oliver-wannell/. 219 Douglas Friedli, “Legal Highs and Lows” (Insider Media Limited, Tachwedd 2019), ar gael yn https://www.insidermedia.com/publications/wales-business-insider/wales-business-insider-november-2019/legal- highs-and-lows.

41

Made with FlippingBook HTML5