Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

cyfweliad yn 2019, dywedodd James Davies (Partner a Phennaeth Eiddo Tiriog RDP Law) “Mae’n bosibl mai cofleidio a gwella technoleg gyfreithiol yw ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd.” 220

d) Sylweddol (paradigm)

Nid yw ein hymchwil wedi gallu nodi enghreifftiau clir o arloesi sylweddol (paradigm), er ein bod yn nodi ei bod yn ymddangos bod rhai cwmnïau yng Nghymru, in primis Acuity Law, Harding Evans a HCR Law, yn arloesi ar draws sawl dimensiwn, ac felly'n arwydd o ymrwymiad cadarn ar draws y maes arloesi sydd â'r potensial i arwain at arloesi sylweddol yn y dyfodol. Yr enghraifft agosaf a nodwyd gennym oedd gan Eversheds Sutherland, sydd, yn ogystal â'i ymagwedd 'Rhagoriaeth Gwasanaeth' a gwasanaeth Konexo, yn ymddangos fel yr unig gwmni cyfreithiol sy'n cynnig darpariaeth technoleg gyfreithiol fel gwasanaeth i gleientiaid. Mae Eversheds Sutherland wedi ymgorffori yn ei fusnes nifer o “reolwyr prosiect cyfreithiol, technolegwyr cyfreithiol, dadansoddwyr busnes, datblygwyr, rheolwyr newid ac arbenigwyr gwybodaeth a dylunio gwasanaethau, sydd oll yn gweithio ochr yn ochr â [eu] timau cyfreithiol i ddarparu gwasanaeth integredig i [eu] cleientiaid.” 221 Mae hyn yn galluogi'r cwmni i ddarparu gwasanaethau ar draws pedair colofn allweddol; technoleg gyfreithiol, gwybodaeth i gleientiaid, darparu gwasanaethau a rheoli prosiectau cyfreithiol. 222 Mae nod Eversheds Sutherland i ddefnyddio “technoleg gyfreithiol i ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau cyfreithiol”, 223 gydag ystod eang o dechnolegau gan gynnwys datblygu apiau symudol, awtomeiddio dogfennau, bwndelu tystiolaeth electronig ac awtomeiddio prosesau robotig 224 , yn awgrymu bod y gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir gan y cwmni wedi'u hail-gysyniadu'n llwyr, trawsnewid sylweddol sy'n dal i fynd rhagddo. Arloesedd sylweddol yw’r cam arloesi cyfreithiol sy’n tarfu fwyaf ac, felly, disgwylir diffyg enghreifftiau ohono yng Nghymru. Fodd bynnag, ym mhennod 6, rydym yn darparu rhai argymhellion ar sut i gyflawni arloesi sylfaenol (paradigm) ar gyfer ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru yn ei chyfanrwydd.

220 Ibid. 221 Eversheds Sutherland, “Service Excellence”, ar gael yn https://www.eversheds- sutherland.com/global/en/what/practices/service-excellence/index.html. 222 Ibid. 223 Eversheds Sutherland, “Legal technology solutions”, ar gael yn https://www.eversheds- sutherland.com/global/en/what/practices/service-excellence/legal-technology.html. 224 Ibid.

42

Made with FlippingBook HTML5