Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

4) chefnogi’r sector i gyflawni mwy o gydgysylltu a chydweithio, gyda’r nod o gyrraedd arloesi sylweddol (paradigm) ar lefel sector.

4 - Yr ecosystem cychwyn a thyfu Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae sector Technoleg Gyfreithiol y Deyrnas Unedig wedi gweld twf sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddyblu ei faint yn y cyfnod 2017-2020. 225 Er bod y rhan fwyaf o gwmnïau Technoleg Gyfreithiol (58%) yn Llundain 226 , mae Cymru yn denu buddsoddiad uchel mewn busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu (start-ups and scale-ups), gan gyrraedd uchafbwynt o £129 miliwn yn 2020. 227 Yn ystod COVID-19, gyda sefydliadau cyfreithiol yn gynyddol fabwysiadu technoleg i ddarparu eu gwasanaethau, mae cwmnïau Technoleg Gyfreithiol wedi cyflymu eu twf 228 , gan gyfrannu at sector technoleg Cymreig gwerth £8.2 biliwn yn 2022. 229 Mae’r bennod hon yn dadansoddi’r ecosystem busnesau newydd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar (i) busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd ac sy'n tyfu, a (ii) busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu eraill sy’n datblygu arloesedd cyfreithiol. Rydym yn darparu’r mapio c ynhwysfawr cyntaf o’r maes, gan archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a brofir gan entrepreneuriaid Technoleg Gyfreithiol Cymru.

4.1 Methodoleg a chyfyngiadau

Er mwyn deall ecosystem Technoleg Gyfreithiol newydd ac sy'n tyfu yng Nghymru yn well, aethom ati i gynllunio methodoleg ymchwil dau gam, yn cynnwys:

a) Adolygiad o’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yng Nghymru, gan gynnwys (i) papurau newydd a phyrth newyddion ar-lein (e.e. WalesOnline, South Wales Argus, etc.), (ii) cronfeydd data buddsoddi a phyrth data (e.e. 225 Lawtech UK, “The Lawtech UK Report 2021, Shaping the Future of Law” (5 Gorffennaf 2021), 17 a 40, ar gael yn https://lawtechuk.io/insights/shaping-the-future-of-law-the-lawtechuk-report-2021. 226 Farzana Haque, “Top 10 Lawtechs: Innovative Solutions Emerging in the UK” (Beauhurst, 23 Chwefror 2023), ar gael yn https://www.beauhurst.com/blog/uk-lawtech/. 227 Henry Whorwood, Daniel Robinson a Freya Hyde, “ Investing in Wales, The Welsh High- Growth Ecosystem 2021” (Beauhurst, 2021), 3, ar gael yn https://www.beauhurst.com/research/investing-in-wales/. 228 Sako a Parnham (n 67), 4. 229 Masnach a Buddsoddi Cymru, “Together Stronger: The Rise Of Welsh Fintech” (Masnach a Buddsoddi Cymru , 25 Ionawr 2023),https://tradeandinvest.wales/inside-story/together-stronger-rise-welsh-fintech.

44

Made with FlippingBook HTML5