Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Crunchbase, SeedLegals, etc.), (iii) gwefannau newyddion technoleg (e.e. UKTN, busnesau newydd., ac ati), (iv) gwefannau cwmnïau ar gyfer yr holl fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu a nodwyd, (vi) cofrestr Tŷ’r Cwmnïau, (vii) gwefannau swyddogol eraill y llywodraeth (e.e. Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, ac ati.). b) Cyfres o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda busnesau Technoleg Gyfreithiol Cymreig newydd ac sy'n tyfu, yn canolbwyntio ar (i) eu strwythur a’u c enhadaeth, (ii) eu strategaeth marchnad a’u cynnyrch, (iii) eu profiad o entrepreneuriaeth yng Nghymru (heriau, cyfleoedd, awgrymiadau ar gyfer gwella). 230 Nododd cam cyntaf yr ymchwil 20 o fusnesau newydd a rhai sy'n tyfu o Gymru y gofynnwyd iddynt am gyfweliadau, gan gynnwys 6 chwmni Technoleg Gyfreithiol ac 14 cwmni sy’n gweithredu o fewn sectorau eraill (yn benodol, Technoleg Ariannol) ond a oedd yn ymwneud ag ymchwil a datblygu arloesi cyfreithiol. Ymatebodd pedwar cwmni i’r gwa hoddiad a chynhaliwyd cyfweliadau yn gynnar yn 2023 gyda (i) Validient, (ii) Credas, (iii) Wyser, ac (iv) Identitech. Er mwyn ymgysylltu cymaint â phosibl, gwnaethom hefyd (i) gyhoeddi galwad gyhoeddus am fusnesau newydd o Gymru sy’n ymwneud â Thechnoleg Gyfreithiol, drwy Legal News Wales, a (ii) datblygu arolwg ar-lein ar gyfer cwmnïau nad oeddent wedi ymateb i wahoddiadau am gyfweliad. Fodd bynnag, ni ddeilliodd unrhyw ymgysylltu pellach o'r ymdrechion hyn.

4.2 Mapio ecosystem cychwyn a thyfu Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae ecosystem cychwyn a thyfu Cymru yn cwmpasu ystod amrywiol a ffyniannus o gwmnïau, gan gyfrannu at dwf yr economi a meithrin arloesedd. Fel y soniwyd uchod, rydym yn gwahaniaethu rhwng dau gategori o gwmnïau: 1) Busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd (start-ups) a busnesau sy'n tyfu (scale-ups) : cwmnïau sy’n ymwneud yn bennaf â datblygu a marchnata technoleg gyfreithiol sy’n ceisio darparu gwasanaethau cyfreithiol, yn unol â’r diffiniad a nodir ym mhennod 2.

2) Busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu eraill sy'n datblygu arloesedd cyfreithiol : cwmnïau sydd, er eu bod yn ymwneud yn bennaf â datblygu a marchnata mathau eraill

230 Cafwyd cymeradwyaeth foesegol ar gyfer y cyfweliadau gan y Pwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, ar 19 Gorffennaf 2022.

45

Made with FlippingBook HTML5